Carcharu dynes o Nefyn am 16 mis am ddwyn miloedd gan gwsmeriaid bregus

Kelly Kurshaw

Mae dynes o Nefyn wedi ei charcharu am 16 mis ar ôl pledio'n euog i dwyll tra'r oedd yn gweithio mewn cymdeithas adeiladu yng Nghaernarfon.

Roedd Kelly Kershaw, 54 oed, wedi defnyddio rhywfaint o'r arian oedd yn berchen i gwsmeriaid bregus er mwyn mynd ar wyliau tramor.

Roedd y cwsmeriaid gafodd eu twyllo yn cynnwys dioddefwr strôc 85 oed, dyn 49 oed ag anawsterau dysgu, a thri phensiynwr.

Roedd y dyn ag anawsterau dysgu wedi bod yn ddioddefwr twyll arall yn flaenorol.

Roedd Kershaw wedi cyflawni'r troseddau yn 2023 a 2024 wrth weithio fel ariannwr (cashier) ym manc Nationwide yn y dref. 

Ymchwiliad mewnol

Fe wnaeth Nationwide gynnal ymchwiliad mewnol ar ôl i aelodau staff sylwi ei bod yn mynd ar wyliau drud.

Image
Nationwide

Fe fuodd hi ar wyliau sgïo ac ar drip saffari yn Affrica, ac roedd lluniau ohoni ar wyliau ym Mharis, Twsgani, Groeg, Mecsico, y Maldives, Indonesia, Norwy, Dubai a lleoliadau eraill hefyd.

Dywedodd y Barnwr Timothy Petts wrthi yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener fod ei thwyll wedi bod yn “barhaus gan dorri ymddiriedaeth yn erbyn cwsmeriaid oedd yn agored i niwed.”

Dywedodd y Barnwr Petts: “Rhaid bod elfen o ataliaeth yma.” 

Ychwanegodd fod y fath ymddygiad yn ysgwyd hyder y cyhoedd mewn sefydliadau ariannol “os gall arianwyr ddwyn £8,000+ heb unrhyw ganlyniadau i bob golwg.”

Moethus

Dywedodd Elen Owen ar ran yr erlyniad bod Kershaw wedi symud i'r gangen yng Nghaernarfon o Northwich yn Sir Gaer. 

Ond sylwodd cydweithwyr ei bod hi'n ymddangos fel pe bai ganddi ffordd foethus o fyw tra'n ennill £1,400 y mis.

Daeth ymchwiliad Nationwide i'r casgliad fod pump o gwsmeriaid yn ddioddefwyr yn yr achos, a bod £8,600 wedi'i ddwyn oddi wrthyn nhw. 

Roedd y gymdeithas adeiladu wedi ad-dalu £12,630. Dechreuodd yr ymchwiliad mewnol ym mis Hydref 2024. 

Roedd amheuaeth bod Kershaw wedi bod yn ffugio llofnodion cwsmeriaid ac yn prosesu tynnu arian parod i gwsmeriaid anhysbys.

Dywedodd y Barnwr Petts wrth y fam dau o blant sy'n oedolion: "Wrth weithio fel ariannwr cymdeithas adeiladu yng Nghaernarfon, fe wnaethoch chi ddwyn £8,605 yn systematig gan bum cwsmer oedrannus neu agored i niwed dros un mis ar ddeg - yr enghraifft waethaf o hyn oedd £6,300 gan un dyn oedrannus ac fe wnaethoch chi dwyllo oedolyn agored i niwed yr oedd ei gerdyn, yn eironig, yn cael ei gadw yn y gangen i'w amddiffyn rhag twyllwyr.

"Fe wnaethoch chi ffugio llofnodion pobl neu fe wnaethoch chi dynnu swm mwy o'r cyfrif a dim ond trosglwyddo rhan ohono."

Dywedodd y barnwr fod Kershaw wedi egluro ei bod hi wedi dewis "targedau hawdd."

Ychwanegodd y barnwr: "Fe ddywedwyd nad ydych chi'n adnabod y person a wnaeth hyn. Y gwir amdani yw, os gwnaethoch chi ddwyn cymaint o arian gan gynifer o bobl, dyma'r person ydych chi.

"Dim ond oherwydd bod amheuon wedi'u codi am eich ffordd o fyw y gwnaethoch chi roi'r gorau i ddwyn arian. Fe wnaethoch chi gamddefnyddio eich swydd."

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.