Carcharu dyn o Borthcawl am gadw corff ei fam mewn rhewgell
Mae dyn o Borthcawl wedi'i garcharu am atal claddedigaeth gyfreithlon ei fam, er mwyn iddo elwa'n ariannol.
Plediodd Christopher Phillips, 60 oed, yn euog i atal claddedigaeth gyfreithlon a pharchus o gorff, ac i dwyll drwy gynrychiolaeth ffug, yn Llys y Goron Caerdydd ar 20 Mawrth.
Roedd wedi cadw corff ei fam mewn rhewgell am dair blynedd, a pharhau i dderbyn ei budd-daliadau oedd â chyfanswm o £78,000.
Yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Llun, cafodd Phillips ddedfryd o ddwy flynedd a phedwar mis yn y carchar.
Cafodd swyddogion Heddlu De Cymru eu galw i dŷ yn Poplar Crescent, Porthcawl, ar 17 Chwefror yn dilyn pryder am les menyw nad oedd gweithwyr proffesiynol meddygol wedi'i gweld ers 2022.
Roedd hi wedi parhau i gael presgripsiynau ac wedi bod mewn cysylltiad cyson yn y gorffennol.
Aeth swyddogion i'r cyfeiriad ychydig cyn 19:00, gan gyfarfod â Phillips.
Gofynnwyd iddo ble roedd ei fam ac fe honnodd ei bod yn Llundain gyda chefndryd.
Wedi i'r swyddogion bwyso arno am ragor o wybodaeth, gwrthododd Phillips roi manylion am pa gefndryd oedd dan sylw neu ble roeddent yn byw.
Yn ystod archwiliad o'r tŷ, daethpwyd o hyd i rewgell gyda blodau wedi'u gosod ar ei ben.
Daeth swyddogion ychwanegol i'r safle, ac fe gafwyd hyd i gorff menyw yn ei 80au y tu fewn iddo.
Cafodd y corff ei adnabod yn ddiweddarach fel corff mam Christopher Phillips, sef Sylvia Phillips.
Pan gafodd ei holi, atebodd Phillips drwy ddweud "dim sylw" i bob cwestiwn a ofynnwyd iddo gan y swyddogion.
Mae archwiliad post-mortem cychwynnol wedi'i gynnal ond nid yw achos y farwolaeth wedi'i gadarnhau eto.
Bydd cwest yn cael ei gynnal i sefydlu amgylchiadau marwolaeth Sylvia Phillips maes o law.
Dywedodd yr uwch-swyddog ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Claire Lamerton: “Mae hwn yn achos hynod drist lle cuddiodd Phillips farwolaeth ei fam ei hun ac elwa'n ariannol am gyfnod sylweddol.
“Mae fy meddyliau gydag theulu Sylvia yn ystod cyfnod mor anodd, a gobeithio eu bod wedi dod o hyd i rywfaint o heddwch ar ôl gallu ei rhoi i orffwys yn briodol.”