Carcharorion yn dychwelyd i'r carchar yn gyflym

Carchar

Mae llywodraethwyr carchardai wedi dweud wrth y BBC fod carcharorion yn dychwelyd i'r carchar ar gyfradd cyflym. 

Yn ôl y llywodraethwyr, maen nhw'n gweld rhai gafodd eu rhyddhau yn 2024 yn dychwelyd am eu bod wedi ail droseddu.

Roedden nhw wedi cael eu rhyddhau ddwy flynedd yn ôl fel rhan o gynllun i leihau'r niferoedd yn sgil gorlenwi mewn carchardai. 

Daw hyn ar ôl i'r Prif Weinidog gyhoeddi ddydd Sul na fyddai unrhyw un a gafwyd yn euog o ladd anghyfreithlon yn gymwys i gael eu rhyddhau yn gynnar o'r carchar. 

Mae hynny yn golygu na fydd y rhai a laddodd PC Andrew Harper yn cael gadael y carchar yn gynnar. 

Dywedodd Andy Burnham y bydd "cannoedd" o bobl yn aros yn y carchar fel rhan o'r newidiadau i'r cynllun sy'n ceisio gwneud mwy o le mewn carchardai.

Bydd carcharorion sydd wedi'u dyfarnu'n euog o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant hefyd yn cael eu heithrio o'r newidiadau.

Pryderon llywodraethwyr 

Mae’r llywodraeth yn dweud bod cynlluniau i greu mwy o le mewn carchardai drwy alltudio carcharorion tramor a rhyddhau rhai sydd gyda dedfrydau amhenodol. Er hynny mae’n annhebygol y bydd y mesurau hyn yn creu llawer mwy o le erbyn i’r garfan gyntaf o garcharorion gael eu rhyddhau ym mis Hydref.

Erbyn mis Mawrth eleni, roedd mwy na 70,000 o bobl wedi cael eu rhyddhau o dan gynllun rhyddhau cynnar 2024.

Ond mae bron i 87,000 o bobl yn dal i fod mewn carchardai ledled Cymru a Lloegr – gyda dim ond ychydig dros 2,000 o leoedd ar ôl.

Mae'r BBC wedi siarad gyda tri unigolyn sydd yn gweithio fel llywodraethwr mewn carchardai yn Lloegr ar hyn o bryd. 

Fe ddywedodd un fod cynlluniau'r Prif Weinidog yn rhai "byrdymor" a bod angen "lle nawr". 

Ychwanegodd y byddai angen mwy o staff pe bai cynlluniau i gynyddu nifer y celloedd mewn carchardai, ond bod prinder staff eisoes. Mae hynny’n golygu nad yw carcharorion ar hyn o bryd yn “byw mewn awyrgylch saff a gweddus”, meddai.

Mae nifer y bobl sy’n dychwelyd i’r carchar hefyd yn rhwystredig, meddai’r llywodraethwr.

Roedd 51,419 o achosion o alw unigolion yn ôl i’r carchar yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2026. Mae hyn yn digwydd pan fydd person yn cael ei anfon yn ôl i’r carchar am dorri amodau ei ryddhau neu am fod pryderon newydd wedi codi ynghylch y risg.

'Dod i stop'

Roedd y nifer yn 40,259 y flwyddyn flaenorol – felly mae wedi cynyddu 28%.

Fe ddywedodd llywodraethwr carchar arall sy'n gweithio yng ngogledd Lloegr wrth y BBC fod angen i'r llywodraeth weithredu neu “bydd y system cyfiawnder troseddol yn dod i stop”.

“Rydych chi’n rhyddhau rhywun i fwrw gweddill ei ddedfryd yn y gymuned ac yn meddwl, ‘nawr mae gen i ychydig mwy o le’, ond yna maen nhw’n ôl eto ac rydych chi’n mynd rownd mewn cylchoedd.

“Mae’n broblem fawr yn y [carchardai dynion] ac rydych chi’n poeni mai dyma fydd yn digwydd eto pan fydd yr holl bobl newydd hyn yn cael eu rhyddhau.”

Problem arall yw'r cynnydd mewn tensiynau rhwng gangiau troseddol yn sgil gorlenwi carchardai meddai un o'r llywodraethwyr. 

Mae pryder hefyd am y ffaith fod dau berson yn gorfod defnyddio cell sydd i fod ar gyfer un person.

“Mae carchardai eisoes yn delio â phroblem plâu, a gallai hyn wneud y sefyllfa’n waeth.”

Mae disgwyl i Lywodraeth y DU gyhoeddi mwy o fanylion ynglŷn â'r cynllun rhyddhau cynnar, gan gynnwys faint o bobl fydd yn cael eu heffeithio. Bydd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder yn gwneud datganiad yn San Steffan ddydd Mawrth. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.