BBC Cymru i ddarlledu gemau Uwch Gynghrair Cymru dros y tair blynedd nesaf
Bydd BBC Cymru yn darlledu o leiaf 20 gêm fyw o uwch gynghrair y Cymru Premier bob tymor dros y tair blynedd nesaf.
Daw’r cytundeb newydd ar ôl i’r BBC a Chymdeithas Bêl-droed Cymru gytuno ar bartneriaeth newydd a fydd yn parhau tan haf 2029.
Bydd y gemau ar gael i'w gwylio yn fyw ar wefan BBC iPlayer, ac yn ychwanegol i'r rhai sy'n cael eu darlledu gan Sgorio ar S4C.
Y gêm gyntaf i gael ei dangos fel rhan o'r cytundeb newydd fydd Y Barri yn erbyn Met Caerdydd am 12.30 ddydd Sadwrn nesaf.
Dywedodd pennaeth chwaraeon BBC Cymru, Carolyn Hitt, y bydd y cytundeb yn "cryfhau ein hymrwymiad i ddarparu darllediadau byw o bêl-droed Cymru".
Mae’r cytundeb yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan y BBC y bydd yn darlledu holl gemau rhyngwladol dynion Cymru at Euro 2028.
Ychwanegodd Ms Hitt: "Gobeithiwn y bydd hyn yn newyddion da i gefnogwyr pêl-droed Cymru wrth i ni barhau i ddod â chwaraeon i deledu rhad ac am ddim".
Dywedodd Jack Sharp, pennaeth cynghreiriau domestig Cymdeithas Bêl-droed Cymru, fod y bartneriaeth yn "gam arwyddocaol arall" tuag at gynyddu proffil y Cymru Premier, gan alluogi’r gynghrair i gyrraedd mwy o gefnogwyr.
"Bydd ymrwymiad y BBC i bêl-droed domestig Cymru yn chwarae rhan bwysig wrth gynyddu ymwybyddiaeth o'r gynghrair, denu cynulleidfaoedd newydd, a chefnogi ein huchelgais ehangach i barhau i dyfu'r gamp," meddai.
Llun: CBDC