Ansicrwydd am ddyfodol clwb padel ar safle hen ffatri Ferranti ym Mangor

S3 Padel Bangor

Mae dyfodol cwrt padel a agorwyd ym Mangor dim ond 12 wythnos yn ôl yn ansicr wedi i'r perchnogion fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Ar 12 Tachwedd, cafodd dau swyddog o gwmni RSM UK eu penodi’n weinyddwyr ar Social Sports Ltd, y cwmni tu ôl i gadwyn S3 Padel.

Mae’r hysbysiad yn The London Gazette, sy'n cofnodi penderfyniadau swyddogol, yn enwi Bangor ymhlith chwe safle’r cwmni, heb nodi beth fydd yn digwydd i’r clwb.

Does dim modd archebu cwrt i chwarae padel ar y safle ar hyn o bryd. 

Ar 3 Medi y cafodd y clwb ei agor ar safle hen ffatri Denis Ferranti ar Ffordd Caernarfon.

Hwn oedd clwb cyntaf S3 Padel yng Nghymru, gydag wyth cwrt padel a phedwar cwrt pêl-bicl yno dan yr un to.

Adeg yr agoriad, dywedodd y cwmni mai hon oedd y ganolfan fwyaf o’r fath yng ngogledd Cymru.

Yn ystod y broses gynllunion, dywedodd asiant y cwmni wrth Gyngor Gwynedd fod yr adeilad wedi bod yn wag ers 2022 ac y byddai'r clwb yn creu swyddi lleol.

Image
Padel

Yn ôl dogfennau arwerthiant Savills, roedd gan Social Sports Ltd brydles 15 mlynedd ar yr uned o fis Mawrth eleni, gyda’r flwyddyn gyntaf yn ddi-rent.

Wrth agor y clwb, dywedodd S3 Padel y byddai ysgolion, elusennau a grwpiau cymunedol ym Mangor yn gallu defnyddio’r cyrtiau am ddim.

Roedd hynny’n rhan o addewid y cwmni i gynnig cyfanswm o 250,000 o oriau o chwarae am ddim ar draws ei glybiau dros bum mlynedd.

Daw'r cyhoeddiad am benodi gweinyddwyr wedi i un o ganolfannau'r cwmni gau yn gynharach eleni. 

Roedd y cwmni wedi bod yn gweithredu canolfan padel yn Wembley yn Llundain ers mis Mai 2024. Yn ôl The Padel Paper, fe wnaeth perchennog y safle roi terfyn ar y brydles oherwydd diffyg talu rhent.

Beth yw padel?

Gêm raced sy’n cyfuno elfennau o denis a sboncen yw padel.

Fel arfer, mae dau bâr yn chwarae dros rwyd ar gwrt llai na chwrt tenis.

Ar ôl i’r bêl daro’r llawr, gall y chwaraewyr adael iddi fownsio oddi ar un o’r waliau gwydr cyn ei tharo’n ôl.

Ym Mhenarth y cafodd cwrt padel cyntaf Cymru ei osod yn 2021.

Erbyn mis Hydref eleni, roedd dros 10,000 o bobl yn chwarae’r gamp yng Nghymru gyda nifer y cyrtiau’n dyblu bob blwyddyn, yn ôl Tennis Cymru.

Ar draws Prydain, mae nifer y bobl sy’n chwarae padel wedi codi o 400,000 ar ddiwedd 2024 i 1.5 miliwn ym mis Hydref eleni, yn ôl ffigurau’r Lawn Tennis Association.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.