Aberfan: Anrhydeddu dynes a fu farw wrth achub pump o blant
Bydd plac porffor yn cael ei ddadorchuddio yn Aberfan er cof am ddynes a fu farw wrth achub bywydau pump o blant yn nhrychineb Aberfan 60 mlynedd yn ôl.
Roedd Nansi Williams yn casglu arian cinio yn Ysgol Gynradd Pantglas ar fore 21 Hydref 1966 pan gafodd yr ysgol ei tharo gan domen lo a lithrodd i lawr y mynydd.
Fe achubodd fywydau pump o blant, ond bu farw yn y trychineb.
Bu farw 144 o bobl yn Aberfan y diwrnod hwnnw, gan gynnwys 116 o blant.
Bydd y plac, sef y 27ain o'i fath yng Nghymru, yn cael ei ddadorchuddio ar wal y fynwent yn Aberfan ddydd Gwener 30 Hydref, fel rhan o weithgareddau i nodi 60 mlynedd ers y trychineb.
Cafodd ymgyrch Placiau Porffor Cymru ei sefydlu yn 2017 er mwyn sicrhau mwy o gydnabyddiaeth i fenywod sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd Cymru, ond sydd yn aml wedi cael eu hanwybyddu mewn hanes.
Ymhlith y menywod sydd wedi derbyn plac mae Megan Lloyd George, y fenyw gyntaf i gael ei hethol yn AS dros etholaeth yng Nghymru, y gohebydd rhyfel Martha Gellhorn, a Jemima Nicholas, sy'n enwog am ei rhan yn atal goresgyniad y Ffrancwyr yn Abergwaun ym 1797.
Cafodd y plac cyntaf ei ddadorchuddio yn 2018 er cof am Val Feld, y cyn-Aelod Cynulliad ac ymgyrchydd dros gydraddoldeb.
Cafodd plac hefyd ei ddadorchuddio ym Merthyr Tudful yn 2019 er cof am yr hanesydd a'r newyddiadurwraig Ursula Masson.
'Cydnabyddiaeth i'w dewrder'
Cafodd Nansi Williams ei geni yn Nhŷ'r Fynwent yn Aberfan, ac roedd yn byw yno tan ei marwolaeth ym 1966.
Mae ei mab bedydd a pherthynas iddi, David Powell o Ferthyr Tudful, wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd i sicrhau cydnabyddiaeth i'w dewrder.
Roedd Mr Powell yn bum mlwydd oed adeg y trychineb ac yn mynychu ysgol gynradd arall yn yr ardal.
Mae'n cofio cael ei anfon i aros gyda'i neiniau a'i deidiau ym Merthyr Tudful, fel nifer o blant eraill yn dilyn y trychineb.
Mae hefyd yn cofio gweld y goleuadau a chlywed sŵn y gwaith achub yn Aberfan.
"Bu farw cymaint o bobl y diwrnod hwnnw, ond doedd neb wir yn sôn amdani hi, er iddi roi ei bywyd i achub pump o blant," meddai.
"Roedd y teulu'n siarad amdani, wrth gwrs, roedd fy nhad yn gefnder cyntaf iddi, ond doedd dim llawer o sôn amdani y tu allan i'r teulu.
"Dyna pam rwyf mor falch ei bod hi'n cael rhywfaint o gydnabyddiaeth yn y gymuned gyda'r plac."
Ychwanegodd fod lleoliad y plac yn arbennig o addas gan mai ar safle hen gartref y teulu y bydd yn cael ei osod.
Dywedodd Jane Hutt, ar ran Placiau Porffor Cymru, ei bod yn falch iawn o allu cydnabod dynes mor arbennig.
"Rydyn ni wedi dathlu llwyddiannau rhyfeddol menywod ym meysydd chwaraeon, llenyddiaeth, y celfyddydau, gwleidyddiaeth ac ymgyrchu cymunedol, ond dydyn ni erioed o'r blaen wedi dathlu rhywun a wnaeth yr aberth eithaf fel Nansi.
"Roedd ei gweithred yn gwbl anhunanol, ac mae'n rhaid bod ei hawydd i amddiffyn y plant yn reddfol."
Mae'r plac wedi cael ei ariannu drwy gyfraniadau gan UNISON Cymru Wales ac undeb UNISON Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gyda chefnogaeth y gymuned leol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.