Cwpwl o Sir Benfro am fridio moch cwta er mwyn eu bwyta
Mae cwpl sy'n bwriadu adeiladu cartref ecogyfeillgar yng nghefn gwlad Cymru wedi dweud wrth eu cyngor lleol eu bod yn bwriadu bridio a bwyta moch cwta fydd yn cael eu magu ar eu tir.
Mae Cyngor Sir Penfro wedi rhoi caniatâd cynllunio i Dave a Mayu Phillips ar gyfer y datblygiad, sy'n cynnwys cadw "da byw ar raddfa fach" ar gyfer cynhyrchu cig.
Yn ogystal â moch cwta, mae'r ddau yn bwriadu magu colomennod a chwningod ar gyfer bwyd mewn ymdrech i fyw'n gynaliadwy ar y tir.
Clywodd cyfarfod o'r pwyllgor cynllunio fod Mr Phillips, sy'n dweud bod ei deulu wedi byw yn Sir Benfro ers cenedlaethau, yn credu bod eu cynllun yn ffordd iddo "gyfrannu'n gadarnhaol at ei ddyfodol".
Mae'r cynlluniau'n cynnwys cartref sy'n cael "effaith isel", rhagor o gynhyrchu mêl a chnau Ffrengig ar y safle, yn ogystal â chadw da byw bach.
Cig
Holodd y Cynghorydd Mark Carter Mr Phillips am y dewis o gig, gan ddweud wrtho: “Roeddwn i’n eithaf chwilfrydig am rai o’r pethau eraill yr oeddech chi’n mynd i’w tyfu: y cwningod a’r moch cwta?”
Atebodd Mr Phillips: “(Nid ydyn nhw) fel y moch cwta sydd gan bobl fel anifeiliaid anwes, mae’n hollol wahanol.
“Mae’n union fel cwningen fawr, ac mae gennym ni brofiad ers blynyddoedd bellach o'u bridio.
“Maen nhw’n cael eu bridio am gig, yn debyg iawn i fridio cwningod am gig, yn debyg iawn.”
'Un blaned'
Mae'r cais yn rhan o gynllun 'Datblygiad Un Blaned' - polisi cynllunio yng Nghymru sydd wedi'i gynllunio i annog pobl i fyw a gweithio mewn ffordd gynaliadwy ar eu tir eu hunain, gan ganiatáu adeiladu ar safleoedd gwledig na fyddai fel arall yn cael caniatâd i gael eu datblygu.
Dywedodd Mr Phillips wrth y pwyllgor cynllunio: "Mae gen i a fy ngwraig angerdd mawr dros y mudiad 'Un Blaned' a'r egwyddorion sy'n sail i ddatblygiad 'Un Blaned'.
"Heddiw, mae dynoliaeth yn byw fel pe baem yn berchen ar sawl daear arall... y gwirionedd yw mai dim ond un blaned sydd gennym.
"Gallwn godi ymwybyddiaeth o'r broblem hon, ond hefyd gymryd camau ymarferol tuag at fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy."