Cwpan Cymru: Gwasnaethau rheilffordd ychwanegol i gefnogwyr o'r gogledd

Tren

Fe fydd gwasanaethau rheilffordd ychwanegol i gefnogwyr sy'n teithio o'r gogledd ar gyfer Rownd Derfynol Cwpan Cymru JD rhwng Caernarfon a'r Fflint ym mis Ebrill. 

Fe fydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal yn Rodney Parade yng Nghasnewydd ar 12 Ebrill. 

Gyda'r ddau dîm o ogledd Cymru, mae disgwyl i filoedd o gefnogwyr deithio ar y trên i lawr i Gasnewydd. 

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi y byddant yn cyflwyno gwasanaeth rheilffordd ychwanegol i sicrhau y gall cefnogwyr deithio yno ac yn ôl. 

Maent yn cyflwyno gwasanaeth a fydd yn gadael o Gaergybi am 08:20 i Gasnewydd, a gwasanaeth o Gaerdydd am 18:09 i Gaergybi. 

Dywedodd Georgina Porter, Rheolwr Cyflenwi Cwsmeriaid a Chynllunio Digwyddiadau Trafnidiaeth Cymru: "Mae ein partneriaeth agos â Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn parhau i lwyddo er lles cefnogwyr. 

"Drwy ddarparu'r gwasanaethau ychwanegol hyn, rydym yn ei gwneud hi'n haws i gefnogwyr gefnogi eu tîm a theithio i'r rownd derfynol mewn ffordd gynaliadwy.

“Rydym eisiau i bawb gael profiad cofiadwy ar ddiwrnod gêm ac yn gofyn i bob teithiwr deithio’n gyfrifol a thrin ein staff â pharch.”

Dywedodd Macsen Jones, Swyddog Gweithredol Ymgysylltu â Chefnogwyr CBDC: “Hoffem ddiolch i Trafnidiaeth Cymru am eu cefnogaeth i Rownd Derfynol Cwpan Cymru JD ac am ddarparu gwasanaethau rheilffordd ychwanegol ar gyfer y gêm eleni.

“Bydd y gwasanaethau hyn yn helpu i sicrhau y gall cefnogwyr Tref Caernarfon a Thref y Fflint deithio i Gasnewydd a dychwelyd i ogledd Cymru mewn modd diogel a chyfleus ar ddiwrnod y gêm."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.