Cwmni rhwydi pêl-droed o Wrecsam yn datgelu cynllun i ehangu'n sylweddol

Net World Sports

Mae cwmni o Wrecsam sydd yn cynhyrchu rhwydi pêl-droed wedi datgelu cynlluniau ar gyfer datblygiad diwydiannol enfawr.

Mae Net World Sports yn gobeithio codi 13 warws ar 33.61 hectar o dir amaethyddol ger Marchwiel, ardal sydd yn fwy na 30 o gaeau pêl-droed.

Byddai’r datblygiad newydd i’r de o Ffordd Cefn ac i’r gorllewin o Ffordd Sesswick, ger Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Five Fords.

Mae adran ystadau’r cwmni, Mauna Kea wedi cyflwyno adroddiad cwmpasu i Gyngor Wrecsam er mwyn cael barn gychwynnol swyddogion cyn cyflwyno cais cynllunio llawn.

Yn ogystal â’r warysau, byddai’r cynllun yn cynnwys llefydd parcio ac is-orsaf drydan.

Mae’r cwmni hefyd yn bwriadu creu saith pwll newydd a chynefinoedd i fywyd gwyllt ar ran arall o’r safle.

Mae’r cwmni’n cael ei redeg gan y miliwnydd Alex Lovén.

Sefydlodd Mr Lovén Net World Sports yn 2009 ar ôl defnyddio £13,000 o’i gynilion i brynu cynhwysydd o rwydi chwaraeon.

Bellach mae’r cwmni’n cyflogi dros 230 o bobl ac mae ganddo bencadlys 411,000 troedfedd sgwâr ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam.

Yn ôl rhestr pobl gyfoethog o dan 40 oed y Sunday Times ar gyfer 2026, ei gyfoeth yw £263 miliwn, sy’n golygu mai ef yw’r person cyfoethocaf o dan 40 oed yng Nghymru.

Nid oes dyddiad wedi ei gyhoeddi eto ar gyfer cyflwyno cais cynllunio llawn ar gyfer y 13 warws.

Llun: Net World Sports

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.