Newid hinsawdd yn gwneud Prydain yn 'fwy deniadol i fosgitos' yn y dyfodol

Mosgito

Mae amodau'r tywydd presennol ar hyd a lled y wlad yn berffaith ar gyfer cynnydd sydyn mewn mosgitos yn ôl rhybudd gan un arbenigwr.

Gallai pryfetach sy'n cario afiechydon mwy difrifol, fel twymyn dengue a Zika hefyd ymledu i Brydain yn y blynyddoedd i ddod oherwydd newid hinsawdd, yn ôl Dr Mojca Kristan o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain.

Dywedodd Dr Kristan: “Mae amodau tywydd y DU ar hyn o bryd yn berffaith ar gyfer mosgitos. Maen nhw'n hoffi cynhesrwydd yn ogystal â dŵr llonydd i ddodwy eu hwyau ynddo.

“Roedd mis Mai yn rhy sych, ond rydym wedi cael glaw ym mis Mehefin felly mae dŵr o gwmpas ac, wrth i'r tywydd barhau i gynhesu, byddwn yn disgwyl i fosgitos ddod allan a dechrau brathu i gael y gwaed sydd ei angen arnynt i fridio.”

Awgrymodd y gallai pobl gymryd camau penodol i sicrhau nad ydynt yn cael eu brathu.

“I amddiffyn eich hun rhag brathiadau, gwisgwch atalydd pryfed a gorchuddiwch eich croen â llewys hir, a gwisgwch sanau gyda’r nos gan fod mosgitos yn hoffi brathu o amgylch eich fferau,” meddai.

Ymledu heintiau

Yn ôl Dr Kristan, nid yw rhywogaethau sy’n gallu trosglwyddo ac ymledu feirysau fel dengue, chikungunya a Zika, gan gynnwys Aedes albopictus (mosgito teigr Asiaidd) ac Aedes aegypti (mosgito o’r Aifft), yn bresennol yn y DU ar hyn o bryd, er bod wyau Aedes albopictus wedi’u canfod yma.

Ond mae rhai feirysau, fel dengue a chikungunya, yn bresennol yn Ewrop, yn enwedig yn ardal Môr y Canoldir.

Mae astudiaethau'n awgrymu y bydd hinsawdd de ddwyrain Prydain erbyn y 2060au yn debygol o helpu i drosglwyddo twymyn dengue yn eang.

Ar hyn o bryd nid yw malaria yn haint cyffredin yn y DU, ond caiff tua 2,000 o achosion sydd wedi eu mewnforio eu cofnodi'n flynyddol mewn teithwyr sy’n dychwelyd o ardaloedd risg uchel, trofannol neu isdrofannol.

Mae arbenigwyr yn dal i gredu ei bod yn annhebygol y bydd malaria yn dod yn gyffredin yn y DU.

Dywedodd Dr Kristan: “Ar hyn o bryd mae risg isel o frathiadau gan fosgitos y DU yn lledaenu salwch difrifol, ond mae’n rhaid i ni fod yn effro i fygythiad rhywogaethau newydd o fosgitos sy’n cario clefydau wrth i newid hinsawdd wneud Prydain yn lle mwy deniadol i fosgitos oroesi a ffynnu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.