Mis Balchder: 'Sgwennu yn achubiaeth' i’r awdur Daf James

ITV Cymru

Mis Balchder: 'Sgwennu yn achubiaeth' i’r awdur Daf James

Wrth siarad i nodi mis balchder LHTDC+, mae’r awdur a’r enillydd Gwobr Emmy Daf James yn dweud fod “’sgwennu wedi bod yn achubiaeth” iddo.

Yn ôl Daf James, roedd ysgrifennu wedi’u helpu i "brosesu teimladau a’r pethau tywyll oedd yn mynd ymlaen".

Ond mae’n poeni am y dyfodol yn wyneb toriadau i’r celfyddydau, gan ddweud bod yn rhaid buddsoddi yn y sector greadigol "os ydym am oroesi fel dynoliaeth".

Mae’n dweud bod nifer, yn enwedig mewn cymunedau lleiafrifol, yn "teimlo’n ofn", a bod straeon a’r diwylliant yn cwffio yn erbyn hyn.

Dechreuodd Mr James ysgrifennu pan oedd yn 16 oed yn ei ddyddiadur, lle byddai’n ceisio dod i ddeall ei hun a’i deimladau.

Erbyn 2025, roedd wedi ennill Gwobr Emmy Rhyngwladol am y Ffilm Deledu neu Gyfres Fer Orau, am ei gyfres Lost Boys & Fairies, sef drama am daith cwpl hoyw i fabwysiadu.

"O’n i’n gal fy annog i sgwennu o’r galon a gobeithio bod hynny o ddiddordeb i bobl arall," meddai.

Mae’n teimlo bod hi’n bwysig iddo gynrychioli ei brofiadau fel aelod o’r gymuned LHDTC+ law yn llaw a’i Gymreictod.

Ond mae’n ofni y bydd llai o straeon sy’n dathlu amrywiaeth gyda llai o gyfleoedd yn y celfyddydau a’r cyfryngau.

"Mae’n gymaint o ofid i fi," meddai. "Mae gormod o ffocws ar wneud arian ac nid ar gelfyddyd."

Image
Lost Boys and Fairies
Enillodd Lost Boys & Fairies wobr Emmy Rhyngwladol


Edrych i’r dyfodol

Yn ôl Daf James, mae ysgrifennu yn gallu bod yn arf pwerus i addysgu pobl.

"Ni’n byw mewn cymdeithas mor ddeuol; us and them," meddai wrth i fis balchder ddod i ben.

"Addysg yw popeth ac mae storiau yn gallu ein haddysgu, a dyna pam mae cynrychiolaeth mor bwysig."

Gyda llwyddiant ei ddrama Lost Boys & Fairies, a’i ddramâu blaenorol fel Tylwyth a Llwyth, mae’n rhoi teyrnged i’r rheiny wnaeth ei ysbrydoli.

"Rydw i’n cario nerth y gymuned a’r arloeswyr cyn fi; pobl fel Ian McKellen a Russell T Davies am wneud y byd 1% yn well," meddai.

Mae’n dweud ei fod yn "fraint" iddo ddilyn eu camau.

Mae Daf James nawr yn edrych ymlaen at wylio’r genhedlaeth nesaf a fydd yn cynrychioli Cymru, ac yn annog pobl greadigol ac amrywiol i fynd amdani.

"Ffeindiwch eich pobl. Dy’ch chi ddim ar eich pen eich hunain," meddai.

"Fydd na wastad lleisiau llawn casineb, wastad pobl yn dweud wrthoch chi bo chi’n methu ’neud pethe ond ma’n rhaid i chi wrando ar bwy y’ch chi yn authentic o fewn eich hunan."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.