Cwmni ffermio o Geredigion yn euog o ddifrodi safle bywyd gwyllt ger Mwnt

Mnt

Mae cwmni ffermio o'r Ferwig yng Ngheredigion wedi ei gael yn euog o ddifrodi safle bywyd gwyllt sydd wedi ei warchod ger Mwnt.

Fe gafodd cwmni Jenkins Tŷ Hen Limited eu canfod yn euog o ddifrodi Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn llysoedd Ynadon Hwlffordd ddydd Mawrth.

Cafodd y busnes ddirwy o £9,000 a gorchymyn i dalu costau o £8,940.66 a gordal dioddefwr ychwanegol o £2,000.

Yn ogystal â hyn, gosodwyd gorchymyn adfer 10 mlynedd hefyd yn yr achos.

Fe gymerodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gamau cyfreithiol yn erbyn Jenkins Ty Hen Limited, tenantiaid tir sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mewn ymateb i "ddifrod parhaus a'r risg ddifrifol o blanhigion prin yn cael eu colli'n gyfan gwbl" meddai CNC.

Mae'r achos yn ymwneud â thir yng Nghrug Bychan, Tŷ Gwyn a Llwyn Ysgaw, sydd wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Cafodd ei warchod yn 2004 i gydnabod ei bwysigrwydd i rywogaethau planhigion prin.

Torri rheolau sawl tro

Dywedodd Ann Weedy, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae safleoedd fel hyn yn bwysig iawn i fywyd gwyllt ac i genedlaethau’r dyfodol. 

"Maent yn cael eu gwarchod gan y gyfraith, ac rydym yn gweithio'n agos gyda ffermwyr i'w helpu i reoli'r tir yn y ffordd gywir.

“Yn yr achos hwn, torrwyd y rheolau sawl gwaith, hyd yn oed ar ôl cyngor a rhybuddion clir. Achosodd hyn niwed gwirioneddol i blanhigion prin sydd wedi'u cyfyngu i ychydig o leoedd yng Nghymru.

“Rydym wedi cymryd camau i amddiffyn y safle arbennig hwn a rhoi’r cyfle gorau iddo adfer.”

Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ddarganfod fod y rheolau sy'n amddiffyn SoDdGAau wedi cael eu torri sawl gwaith dros yr wyth mlynedd diwethaf. 

Rhwng 2017 a 2025, roedd sawl achos lle defnyddiwyd gwrtaith, slyri a chwynladdwyr heb ganiatâd gan CNC. 

Niweidiodd hyn y planhigion prin ar y safle.

Fe wnaeth hyn barhau "er gwaethaf cyngor, rhybuddion a chyfarfodydd" meddai CNC.

Mae arbenigwyr yn dweud bod hyn wedi achosi dirywiad difrifol yn nifer ac amrywiaeth y planhigion prin ar y safle. 

Ond mae rhai yn dal i fodoli yno, ac mae gorchymyn adfer gan y llysoedd yn golygu y gallai adferiad fod yn bosib os caiff y tir ei reoli'n gywir.

Mae'r gorchymyn adfer yn ei gwneud yn ofynnol i'r tir gael ei reoli trwy gylchdroi cnydau âr (arable) priodol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.