Cwest: Dyn wedi marw ar Grib Goch ar ôl methu a dod o hyd i le i wersylla
Mae cwest i farwolaeth dyn yn Eryri wedi clywed ei fod wedi marw ar ôl disgyn o lethrau Crib Goch wedi iddo chwilio gyda'i fab am lecyn i wersylla dros nos ym mis Awst.
Roedd Patrick Butler yn 54 oed ac yn dod o Thornton Heath yn Llundain.
Roedd yn yrrwr bysys wrth ei waith.
Wrth agor y cwest yng Nghaernarfon fore dydd Iau, dywedodd Sarah Riley, crwner cynorthwyol Gogledd Orllewin Cymru, fod Mr Butler a'i fab wedi cael eu gadael ym maes parcio Pen y Pass am 15:30 ar 29 Awst eleni.
Eu bwriad oedd cerdded llwybr Pen y Gwryd i gopa'r Wyddfa a gwersylla yno dros nos, cyn cerdded ar hyd Grib Goch y bore canlynol.
Fe gymerodd ddwy awr a hanner i'r ddau gerdded i gopa'r Wyddfa.
Gwersylla
"Ar ôl cyrraedd fe wnaethant chwilio am lecyn addas i wersylla ond nid oedd unman yn addas," meddai'r crwner.
Aeth y ddau ymlaen i Grib Goch gan aros yno am nifer o oriau cyn dechrau ei dringo, gyda Mr Butler yn dilyn ei fab.
"Clywodd ei fab ei dad yn gweiddi 'awtsh!', cyn iddo droi rownd a gweld ei dad yn mynd dros yr ochr," ychwanegodd Sarah Riley.
Gyda chymorth aelodau'r cyhoedd, fe chwiliodd y mab am ei dad am gyfnod byr, cyn cysylltu gyda'r Gwasanaeth Ambiwlans a'r tîm achub mynydd.
Daeth y tîm achub mynydd o hyd i Patrick Butler yn gorwedd yn simsan ar ochr craig fechan.
Cafodd ei farwolaeth ei chadarnhau yno am 01.33 gan Ben Heath meddai'r crwner.
Cafodd corff Mr Butler ei adnabod yn ffurfiol gan ei frawd, David Butler.
Archwiliad post mortem
"Cafodd archwiliad post mortem ei orchymyn a'i gynnal gan Dr Mark Atkinson," meddai'r crwner wrth y gwrandawiad.
"Canfyddiad dros dro yr archwiliad hwnnw yw fod Mr Butler wedi marw o anafiadau niferus."
Fe gafodd samplau eu hanfon ar gyfer profion tocsicoleg.
Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau gwblhau eu hymchiliadau.
Apêl ariannol
Yn dilyn ei farwolaeth, mae brawd Mr Butler, David Butler, wedi dechrau ymgyrch codi arian ar gyfer Tîm Achub Mynydd Llanberis.
Dywedodd mewn neges ar gyfer yr apêl fod ei frawd yn adnabod y mynyddoedd fel cefn ei law ac roedd wrth ei fodd yn cynnig cymorth i'w deulu, ffrindiau a dieithriaid i ddringo Crib Goch ar ei ymweliadau.
"Roedd fy mrawd Pat wrth ei fodd gyda’r mynyddoedd, ac yn enwedig Yr Wyddfa a Chrib Goch," meddai.
"Roedd yn adnabod y mynydd yn drylwyr ac yn mwynhau helpu ffrindiau, teulu a dieithriaid i lywio eu ffordd ar hyd y grib yn ystod ei ymweliadau.
"Roedd gyda’i fab, Kofi, ar Grib Goch yn hwyr nos Sadwrn pan ddirywiodd y tywydd. Syrthiodd, gan golli ei fywyd.
"Llwyddodd Kofi i ddod oddi ar y grib, a gyda chymorth cerddwr arall ddaeth o hyd iddo, fe ffoniodd 999.
"Anfonwyd Tîm Achub Mynydd Llanberis mewn niferoedd ar droed, gan fod yr amodau yn rhy wael i’r hofrennydd."
Diolchodd i'r gwirfoddolwyr achub mynydd am eu hymdrechion yn ystod y diwrnod pan fu farw Mr Butler.
Llun: Just Giving