Cwest: Dau ffrind wedi bod yn trwsio caiacau cyn mynd ar goll o draeth ger Pwllheli
Mae cwest i farwolaethau dau ddyn a fu farw ar ôl mynd ar goll o draeth ym Mhwllheli wedi clywed eu bod wedi eu gweld yn trwsio dau gaiac aer y diwrnod cyn iddyn nhw fynd ar goll.
Fe aeth Simon Anthony Wilson, 35 oed, ac yn dad i bedwar, a Connor James Parfitt, 24 oed, ar goll ar 21 Gorffennaf eleni ar ôl mynd allan ar gaiacau ger parc gwyliau Hafan y Môr.
Roedd y ddau yn byw yn y gwersyll ac yn gweithio yno fel glanhawyr.
Ar ôl derbyn adroddiadau eu bod ar goll, fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru ryddhau apêl am wybodaeth i geisio dod o hyd iddynt.
Cafodd corff Mr Parfitt ei ganfod bum niwrnod yn ddiweddarach ar 26 Gorffennaf, rhwng dwy garreg fawr ar yr arfordir ger pentref Llanfarian yng Ngheredigion.
Ddeuddydd yn ddiweddarach ar 28 Gorffennaf, daeth aelod o’r cyhoedd o hyd i gorff Mr Wilson yn arnofio yn y môr ger traeth Llwyngwril, Gwynedd.
Wrth siarad mewn cwest ar y cyd i’r ddau ffrind yng Nghaernarfon dydd Gwener, dywedodd uwch grwner gogledd-orllewin Cymru, Kate Robertson, bod y ddau yn hoff o fynd allan ar y môr ar eu caiacau aer.
Nid oedd gan Mr Wilson, a symudodd o Solihull i ardal Porthmadog pan yn blentyn ifanc “lawer o brofiad“ o gaiacio cyn symud i Hafan y Môr.
Symudodd Mr Parfitt i’r ardal o Blackpool am “ddechrau newydd” ar ôl cael “cyfnod anodd” wedi i un o’i ffrindiau farw yn ei freichiau.
Roedd wrth ei fodd yn byw ym Mhwllheli, gan ddweud ei fod yn “edifarhau” nad oedd wedi symud i’r ardal yn gynt, yn ôl datganiad gan ei frawd, Aaron.
'Mewn hwyliau da'
Y diwrnod cyn i’r ddau ffrind fynd ar goll, fe wnaeth un cyd-weithiwr eu gweld yn ceisio trwsio dau gaiac aer gyda thâp gludiog ('duct tape') a chit i drwsio tyllau.
Yn ôl datganiad Aaron Parfitt, fe wnaeth ei frawd ffonio eu mam mewn galwad Facetime.
“Fe soniodd ei fod yn mynd ar ei gaiac gyda Simon y diwrnod hwnnw ac y byddai’n galw eto’n hwyrach yn y dydd. Yn anffodus, ni chawsom alwad yn ôl gan Connor.”
Dywedodd gweithiwr arall ei fod yn cael barbeciw ar nos Lun 21 Gorffennaf ar y traeth ger Hafan y Môr, pan welodd Connor a Simon ar eu caiacau, tua milltir i ffwrdd o’r lan.
Dywedodd y cyd-weithwir eu bod yn ymddangos “mewn hwyliau da.”
“Pan wnes i adael, roeddynt dal yn y dŵr - ddim mewn trafferth nag anhawster o gwbl. Ni welais nhw eto.”
Mewn fideo a gafodd ei rannu gan Simon am 19.19 y noson honno ar ei gyfrif Snapchat, fe ddywedodd: “Boneddigesau a boneddigion, rwy’n darlledu o Gymru, am ddiwrnod hyfryd.”
Nid oedd Simon yn gwisgo siaced achub, ac roedd y môr yn ymddangos yn “arw”, yn ôl cyfnither Simon, Michelle Tobin, a welodd y fideo.
Marwolaethau damweiniol
Dywedodd y crwner mai achos marwolaeth Connor Parfitt oedd ymprydio hirfaith ('prolonged fasting'), wedi’i achosi gan hypothermia ac ymdrochi mewn dŵr.
Achos marwolaeth swyddogol Simon Wilson oedd boddi. Nid oedd alcohol nac unrhyw gyffuriau yng nghyrff y ddau ddyn.
“I mi, beth sydd yma yw marwolaethau cwbl anfwriadol ac annisgwyl i Simon a Connor. Yn amlwg, maen nhw wedi mynd ar goll yn y môr," meddai Kate Robertson
"Gan ystyried fod Simon wedi boddi a Connor wedi profi hypothermia ac effeithiau eraill, dwi’n ystyried bod eu marwolaethau yn gwbl ddamweiniol.
“I gyfeirio at deulu Simon, allwn i ddim dechrau dychmygu pa mor anodd yr oedd i chi yn ystod y cyfnod pan yr oedd ar goll.
"Nid oes geiriau i gyfleu pa mor anodd y byddai hynny wedi bod.
“Mae’r un peth yn wir i deulu Connor - i gael cyfnod o beidio gwybod cyn y newyddion hynod drist. Hoffwn rannu fy nghydymdeimlad llwyr i deulu Simon a theulu Connor yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.”