Creu darlun enfawr o Dylan Thomas ar ochr bryn yn Sir Gâr
Mae darlun enfawr o'r bardd Dylan Thomas wedi ei greu ar ochr bryn yn yn Sir Gâr.
Mae'r gwaith wedi ei greu gan ddefnyddio pridd a rhisgl ar dir Gerddi Botaneg Genedlaethol Cymru.
Mae'n un o 10 eicon lleol adnabyddus sy’n cael eu creu gan yr artist preswyl Nathan Wyburn yn ystod ei gyfnod yn yr Ardd Fotaneg, fel rhan o Ŵyl y Pethau Bychan yno ddydd Sul.
Bydd ymwelwyr yn gallu gwylio Nathan yn gweithio’n fyw ar ei gampwaith drwy gydol y dydd.
Mae ei broses greadigol – troi pethau bach yn rhywbeth godidog – wrth wraidd yr ŵyl.
Bydd yr ŵyl yn "ddathliad bywiog, dwyieithog yn dod â diwylliant Cymru yn fyw trwy ddiwrnod o ddarganfod, creadigrwydd a chysylltiad" meddai'r trefnwyr.