‘Costio dim i wrando ar fenywod’: Brwydro dros newid i ofal rhieni ôl-enedigol yn ‘flinedig’
Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn trafod marwolaeth babanod ac fe allai ei chynnwys beri gofid
Mae menyw a gollodd ei babi yn dweud fod y driniaeth ôl-enedigol i rieni yng Nghymru yn “greulon” a bod lleisiau rhieni “ddim yn cael eu clywed”.
Fe wnaeth Jazzmin Roberts o Bort Talbot orfod geni ei mab cyntaf-anedig, Wyatt, yn farw pan roedd hi’n 41 wythnos a dau ddiwrnod yn feichiog.
Byddai Wyatt wedi bod yn saith oed ym mis Tachwedd eleni.
Yn ôl Jaz, sydd bellach yn fam i dri, doedd dim cymorth seicolegol ar gael wedi iddi brofi profedigaeth ei mab, am nad oedd ei babi dal yn fyw.
Dywedodd: “Yn fuan ar ôl marwolaeth Wyatt, ‘nes i ofyn i gael fy hatgyfeirio at y tîm iechyd meddwl amenedigol, achos roedd fy nghorff a’m hymennydd i yn dal i brofi'r un heriau a fyddai unrhyw fam arall ar ôl geni babi.
“Ond cafodd fy nghais ei wrthod am fod y babi wedi marw,” meddai.
O dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar y pryd, roedd Jaz ar ddeall bod ei beichiogrwydd yn un “cwbl arferol” heb unrhyw beth amlwg o’i le, cyn i bethau fynd yn chwith tua’r diwedd:
“Mae colli babi yn golygu llawer mwy na marwolaeth plentyn yn unig, mae’n effeithio ar bopeth i bob pwrpas.
“Mae’n dinistro eich bywyd a ‘dach chi’n gorfod ail-adeiladu popeth. Bydd bywyd byth yr un fath eto i ni,” ychwanegodd.
“Mae’n dorcalonnus, mae’n brofiad mor isolating, mae’n stigmatised ac yn parhau i fod yn dabŵ,” meddai Jaz.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: “Mae’n ddrwg iawn gennym glywed am bryderon Jazzmin ynghylch safon y gofal a gafodd yn dilyn colled trist ei babi, Wyatt, yn 2019.
“Nid ydym wedi derbyn cwyn ffurfiol, ond byddem yn croesawu’r cyfle i drafod y pryderon hyn yn uniongyrchol â hi.”
'Ddim yn gweld y newid'
Bellach mae Jaz wedi sefydlu elusen ei hun - Better Maternity Wales - yn dilyn ei phrofiad personol, gyda’r nod o ddod â gweithwyr proffesiynol a lluniwyr polisïau at ei gilydd.
Ychwanegodd: “Mae’n costio dim i wrando ar fenywod, nid yw gwneud gwasanaethau’n fwy diogel yn costio arian - does dim angen prynu pethau o’r newydd.
“Weithiau mae’n golygu sicrhau bod gwybodaeth ar gael, a bod lleisiau’n cael eu clywed.
“’Dyw hynny ddim yn anodd rhoi ar waith."
Dywedodd Jaz ei bod yn teimlo er iddi godi ei llais yn gryf dros wella gwasanaethau mamolaeth a chymorth ar ôl colli babi, nad yw lleisiau rhieni’n “cael eu clywed”.
“Mae’n teimlo fel bod pobl yn dweud y pethau iawn i’n tawelu ni, ond dydyn ni ddim yn gweld y newid.
“Y rhieni sy’n gorfod gwneud y gwaith brwydro a chodi ymwybyddiaeth, er na ddylai’r cyfrifoldeb fod arnyn nhw.
“Mae gorfod brwydro dros newid yn flinedig ac yn llethol.
“Mae’n torri fy nghalon gweld rhieni’n mynd drwy be es i drwyddo, yn mynd drwyddo nawr, a bydda i’n gorfod mynd drwyddo am byth,” meddai.
'Angen gwell cymorth'
Mewn uwchgynhadledd yn y Senedd ddechrau’r mis fe ddywedodd Christie-Ann Lang, sy’n aelod o Goleg Brenhinol y Bydwragedd ac yn arbenigwraig bydwreigiaeth profedigaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, fod colli babi yn ystod beichiogrwydd yn brofiad “trawmatig”, a bod angen “cymorth sylweddol” ar rieni yn dilyn eu colled.
“Mae’r cymorth yn aml yn dibynnu ar ymrwymiad aelodau unigol o staff yn hytrach na buddsoddiad systematig.
“Mae bydwragedd yn gweithio y tu hwnt i’w horiau, ac yn mynd y tu hwnt i ofynion eu rôl er mwyn sicrhau bod anghenion teuluoedd yn cael eu cyrraedd.
“Mae teuluoedd yn haeddu cymorth profedigaeth a chymorth seicolegol teg, ble bynnag maen nhw’n byw, beth bynnag eu hethnigrwydd, crefydd, oedran, rhywedd, neu statws gymdeithasol,” meddai Christie.
Cafodd yr uwchgynhadledd ei chynnal cyn Wythnnos Ymwybyddiaeth o Golli Babi (9-15 Hydref) lle daeth teuluoedd, elusennau a gweithwyr iechyd proffesiynol at ei gilydd o ledled y DU i gofio am fabanod sydd wedi marw.
Mewn datganiad fe ddywedodd Delyth Jewell, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Menywod: “Mae colli babi yn un o'r profiadau mwyaf enbyd y bydd teulu byth yn ei wynebu, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob rhiant a theulu mewn profedigaeth fynediad at ofal cyson, tosturiol ac o safon uchel, ni waeth lle maent yn byw yng Nghymru.
“Byddwn yn parhau i fonitro'r gwaith o'u gweithredu, yn rhannu gwersi ac yn cefnogi gwelliannau fel y gall pob teulu gael y gofal tosturiol sydd ei angen arno.
“Mae cefnogi teuluoedd ar ôl colli babi yn rhan bwysig o'n hymrwymiad ehangach i wella gwasanaethau mamolaeth, newyddenedigol ac iechyd menywod yng Nghymru.
“Hoffwn gynnig fy nghydymdeimlad dwysaf i bob teulu sydd wedi colli babi. Gwn na all geiriau fyth leddfu eich colled, ond rwy'n benderfynol o wneud newidiadau fel y bydd llai o fabanod yn colli eu bywydau.” meddai.
Fe fydd gwasanaeth goffa yn cael ei gynnal ddiwedd mis Tachwedd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i gofio am yr holl fabanod sydd wedi eu colli, gyda chroeso i unrhyw un sydd wedi’u heffeithio gan golli babi fynychu.
