Costau cyflenwi meddyginiaethau yn 'erchyll' i fferyllfeydd yng Nghymru

Dr Berwyn Owen yn Fferyllfa Penygroes

Mae fferyllydd sydd yn berchen ar fferyllfa ym Mhenygroes yng Ngwynedd yn dweud bod y twf yng nghostau meddyginiaethau wedi bod yn “erchyll” dros y blynyddoedd diwethaf, a’i fod yn pryderu am “ddyfodol fferyllfeydd yng Nghymru”. 

Dywedodd Dr Berwyn Owen wrth Newyddion S4C fod ei fferyllfa yn gwneud colledion ariannol yn fisol wrth geisio cydbwyso cyflenwi a dosbarthu meddyginiaethau, a bod hynny yn adlewyrchiad o brofiadau fferyllfeydd yng Nghymru gyfan.

“Yr unig reswm ‘dw i’n gallu cadw fy mhen uwch ben y dŵr ar hyn o bryd yw am fod pobl yn dod am wasanaeth ym Mhenygroes.

“Dw i’m yn gwybod am ba mor hir y gallai hynny barhau,” meddai.

Mae Dr Owen yn fferyllydd ers bron i 30 o flynyddoedd, ac yn berchennog ar Fferyllfa Penygroes ers 2022.

Image
F

Dywedodd fod fferyllfeydd yn wynebu cyfnod digynsail o ansefydlogrwydd:

"'Nes i adael fy swydd fel Prif Fferyllydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan edrych ymlaen at her nesaf fy ngyrfa fel perchennog fferyllfa annibynnol.

"Ond mae'r ansefydlogrwydd yn gwasgu arnom ni.

“Mae meddyginiaethau mor, mor bwysig, a hynny i bawb. Mae pob un person naill ai’n adnabod rhywun neu yn rhywun ei hunain sy’n gorfod cymryd meddyginiaeth neu’n gofalu am rywun sydd ei angen.

“A hynny ymhob tŷ - unwaith y mae fferyllfa yn gorfod cau mae’n annhebygol y bydden nhw’n agor eto,” ychwanegodd.

Dros y pum mlynedd diwethaf mae 32 o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru wedi gorfod cau’n barhaol oherwydd pwysau ariannol.

Rhan o'r broblem yw'r anallu i dalu costau cyflenwi meddyginiaethau’r Gwasanaeth Iechyd.

Yn ôl ffigurau gan Gymdeithas Genedlaethol y Fferyllfeydd, bu’n rhaid i 60% o berchnogion fferyllfeydd ailforgeisio eu cartrefi, neu ddefnyddio cynilion personol i gadw eu fferyllfeydd ar agor yn 2025.

Darganfyddodd yr arolwg gan y Gymdeithas hefyd nad oedd 40% o fferyllfeydd yng Nghymru yn gallu gwneud elw y flwyddyn honno.

Prinder meddyginiaethau

Ym mis Chwefror 2019 fe gafodd Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 eu diwygio er mwyn cyflwyno Protocolau Prinder Difrifol (SSPs).

Mae cyflenwi meddyginiaethau yn fater sydd wedi’i ddatganoli, ond Llywodraeth y DU fydd yn arwain o ran rheoli cyflenwadau a phrinder meddyginiaethau pan fo angen.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymru ar gyfer y Coleg Fferylliaeth Brenhinol, Geraldine McCaffrey, wrth Newyddion S4C fod heriau mawr yn bodoli wrth geisio darparu meddyginiaethau i gleifion:

“Mae fferyllfeydd ar draws Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn parhau i wynebu heriau sylweddol wrth geisio cyflenwi meddyginiaethau, gyda thimau’n treulio cryn dipyn o amser yn ceisio dod o hyd i stoc neu ddewisiadau cyfatebol addas.

“Maen nhw hefyd yn wynebu colledion ariannol pan fydd cost prynu meddyginiaethau’n uwch na’r swm fydden nhw’n ei dderbyn yn ôl mewn ad-daliad,” ychwanegodd.

‘Dim pres o gwbl’

Yn ôl Dr Berwyn Owen, os na fydd y Llywodraeth yn gwneud rhywbeth yn gyflym fe fydd nifer o fferyllfeydd yn gorfod cau:

“Mae ‘na rhyw 300 ohonom ni dal yn annibynnol yng Nghymru, ac mae angen rhyw fath o sefydlogrwydd yn ariannol arnom ni.

“Bydd sawl fferyllfa yn gorfod cau a hynny yn gyflym iawn. Bydd hynny’n sylweddol - nid chwarae bach sydd yma o gwbl.

“’Dw i’n berson positif iawn... a bob amser yn meddwl bod ffordd i ni ddod o hyd iddi i wneud pethau i weithio.

“Ond ‘dw i’n cwestiynu dyfodol fferyllfeydd yng Nghymru." meddai.

Image
Rhodri Thomas o CPW
Rhodri Thomas, o Fferylliaeth Gymunedol Cymru

Mae Rhodri Thomas yn Gyfarwyddwr Ymgysylltu a Chefnogi Contractwyr, sy’n darparu cymorth i gontractwyr ledled Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Caerdydd a’r Fro, a Betsi Cadwaladr, gan gynnwys ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint.

Dywedodd wrth Newyddion S4C mai'r teimlad yw y bydd mwy o fferyllfeydd yng Nghymru yn cau oherwydd y "gwasgedd ariannol":

"Byddai'r Llywodraeth yn dadlau bod yr arian y mae fferyllfeydd wedi'i dderbyn dros y blynyddoedd diwethaf wedi cynyddu - ac mae hynny yn gywir.

"Ond y gwirionedd yw bod y pwysau o gyflenwi a dosbarthu meddyginiaeth hefyd wedi cynyddu ond ar raddfa gyflymach," esboniodd.

"Mae'r gofyn ar y staff yn cynyddu, ac yr unig ffordd y mae'r contractwyr yn gallu gwneud yn siŵr eu bod yn cadw'r drysau ar agor yw drwy gwtogi aelodau o staff - sy'n arwain at ragor o bwysau sydd ar y staff ar ôl.

"Y teimlad yw y bydd mwy o fferyllfeydd yn cau oherwydd y gwasgedd ariannol, yn enwedig os na fydd yr arian yn dod i mewn i'r system," meddai Rhodri.

Galw am newid

Image
Dr Geraldine McCaffrey
Dr Geraldine McCaffrey

Ychwanegodd Geraldine Mccaffrey ar ran y Coleg Fferylliaeth Brenhinol: 

“Rydym wedi galw am newidiadau a fydd yn cefnogi cadwyn gyflenwi meddyginiaethau gryfach a mwy gwydn, ochr yn ochr â system ad-dalu gynaliadwy sy’n adlewyrchu’r costau gwirioneddol y mae fferyllfeydd cymunedol yn eu hwynebu, fel nad ydynt yn gorfod cyflenwi meddyginiaethau a wynebu colledion.

“Rhaid sicrhau bod y cleifion yn gallu cael gafael ar y meddyginiaethau sydd eu hangen arnynt heb oedi diangen.”

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 

“Mae prinder meddyginiaethau yn fater byd-eang a gall ddigwydd oherwydd cynnydd mewn galw, amhariad ar ddeunyddiau crai neu broblemau gweithgynhyrchu.

“Er mwyn sicrhau mae gan gleifion yng Nghymru fynediad cyfartal at feddyginiaethau, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU sydd yn y pen draw yn gyfrifol am sicrhau bod y DU yn parhau i fod yn farchnad ddeniadol i weithgynhyrchwyr fferyllol."

Ychwanegodd y llefarydd: “Mae’r pris y mae’r Gwasanaeth Iechyd yn ei ad-dalu i fferyllfeydd cymunedol am feddyginiaethau a ddosberthir wedi’i osod mewn ymgynghoriad â chynrychiolwyr y sector, gan ddefnyddio data sy’n dangos y prisiau gwirioneddol sydd yn cael eu codi ar fferyllfeydd a’r prisiau y maent yn eu talu i’w cyflenwyr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.