Annog pobl sy'n gymwys i gael eu brechu rhag y ffliw

ffliw
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n annog pobl sydd yn gymwys i gael eu brechu cyn gynted â phosib ar ôl i dystiolaeth ddangos bod achosion o'r ffliw ar led unwaith eto.
 
Mae'r alwad yn mynd yn enwedig i bobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor a phobl 65 oed â hŷn.
 
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae'r data diweddaraf yn dangos bod y tymor ffliw wedi dechrau.
 
Mae lefelau'r ffliw yn parhau'n isel ar hyn o bryd, ond mae disgwyl i nifer yr achosion godi dros yr wythnosau nesaf. 
 
Mae tymor y ffliw fel arfer yn dechrau tua diwedd mis Tachwedd neu ddechrau mis Rhagfyr. 
 
Mae tymor eleni wedi dechrau'n gynharach nag arfer, ond ddim mor gynnar â’r llynedd.
 
Gall y ffliw fod yn ddifrifol, yn enwedig i oedolion hŷn a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor fel asthma, diabetes, neu glefyd cronig y galon. 
 
Gall hyn eu gwneud yn fwy agored i gymhlethdodau, oherwydd feirysau’r ffliw.
 
Ffliw 'ledled Cymru'
 
Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r ffliw bellach yn cylchredeg ledled Cymru ac ychydig yn gynharach nag y byddai disgwyl fel arfer.
 
“Er bod tymor y ffliw wedi dechrau’n gynnar, mae amser o hyd i gael eich brechlyn ffliw cyn i ni gyrraedd uchafbwynt y cylchrediad. Mae'r brechlyn ffliw yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn eich hun rhag y tri math o ffliw sy'n cylchredeg bob blwyddyn.
 
“Mae sawl feirws ffliw yn cylchredeg bob gaeaf, ond ar hyn o bryd rydym yn gweld ffliw A(H1) ac A(H3), gyda mwy o achosion o A(H1) wedi’u cadarnhau hyd yma. 
 
"Gall A(H1) effeithio’n fwy ar bobl iau, gan gynnwys plant, menywod beichiog a'r rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol, tra bod A(H3) wedi'i gysylltu'n hanesyddol â lefelau uwch o salwch mewn oedolion hŷn a lleoliadau cartrefi gofal. 
 
"Gan fod y ddau feirws yn cylchredeg, mae'n bwysig bod pawb sy'n gymwys yn manteisio ar y cynnig o frechlyn ffliw i gael yr amddiffyniad gorau posibl. "
 
Mae'r rhai sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim gan y GIG yn cynnwys pobl 65 oed a hŷn, pobl rhwng chwe mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor, menywod beichiog, gofalwyr, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, a phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal. 
 
Mae plant dwy a thair oed (ar 31 Awst 2025) hefyd yn gymwys, ac mae disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd (dosbarth derbyn i flwyddyn 11) yn cael cynnig y brechlyn ffliw drwy ysgolion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.