Comisiynydd safonau i ymchwilio i rodd o £5m i Nigel Farage
Mae Nigel Farage, arweinydd Reform UK, yn wynebu ymchwiliad gan gorff safonau Tŷ'r Cyffredin am rodd o £5 miliwn a dderbyniodd yn 2024.
Cafodd achos Mr Farage ei gyfeirio at y Comisiynydd Seneddol dros Safonau Daniel Greenberg am y taliad nad oedd wedi ei ddatgan ar y pryd.
Roedd y rhodd wedi dod gan Christopher Harborne, buddsoddwr mewn arian Crypto sydd yn byw yng Ngwlad Thai.
Mae Mr Farage wedi dweud yn y gorffennol nad oedd "achos i'w ateb" mewn cyswllt a'r rhodd, oedd meddai heb unrhyw gysylltiad gyda'i weithgareddau gwleidyddol.
Mae wedi dweud fod yr arian yn angenrheidiol ar gyfer ei ddiogelwch personol am weddill ei oes.
Yn ôl adroddiadau roedd wedi derbyn yr arian yn 2024 cyn iddo gyhoeddi y byddai'n ymgeisio yn etholaeth Clacton yn etholiad cyffredinol 2024.
Mae asiantaeth newyddion The Press Association yn deall fod y comisiynydd wedi dechrau ei ymchwiliad o dan reol pump o god ymddygiad ASau, sy'n nodi y dylai pob aelod seneddol newydd restru eu buddion ariannol perthnasol oedd wedi eu derbyn yn y 12 mis cyn yr etholiad, a gwneud hynny o fewn mis ar ôl cael eu hethol.