Dr Alex George: 'Roeddwn i eisiau dod â fy mywyd i ben'

Dr Alex George

Rhybudd: Mae’r erthygl hon yn trafod hunanladdiad

Mae un o sêr y gyfres Love Island sy'n hanu o Sir Gâr wedi dweud ei fod "eisiau dod â’i fywyd i ben" ddwy flynedd yn ôl, a hynny mewn fideo newydd i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

Mewn neges ar Instagram, dywedodd Dr George, 35 oed, ei fod adref yn ei fflat pan ddechreuodd feddwl am ddod â’i fywyd i ben, cyn mynd allan i redeg, a oedd, meddai, wedi "achub ei fywyd go iawn", cyn iddo ffonio ffrind i ofyn am help.

Fe ymddangosodd y cyn-feddyg adran achosion brys ar y gyfres Love Island yn 2018, cyn mynd ymlaen i fod yn Llysgennad Iechyd Meddwl Ieuenctid y DU ar gyfer Llywodraeth y DU tan 2025.

Bu farw ei frawd, Llyr, drwy hunanladdiad yn 19 oed yn 2020, ychydig cyn iddo ddechrau yn yr ysgol feddygol.

Mewn fideo a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth, dywedodd Dr George: "Dwi erioed wedi rhannu’r stori hon tan nawr.

"Ddwy flynedd yn ôl, fe wnes i eistedd ar y grisiau hyn a meddwl am ddod â fy mywyd i ben.

"Mewn gwirionedd, roeddwn i eisiau dod â fy mywyd i ben.

"Roeddwn i mor aflonydd nes fy mod yn ofnus. Roeddwn i’n dychryn fy hun, oherwydd roeddwn i’n teimlo fy mod allan o reolaeth.

"Ond fe wnes i edrych ar Rolo (ei gi) yn eistedd ar waelod y grisiau a meddwl, ‘Mae’n rhaid i mi geisio aros’. 

"Felly fe wnes i roi dewis i fi fy hun - naill ai gadael nawr, neu fynd am run.

"Ac fe wnaeth mynd ar y run hwnnw achub fy mywyd go iawn.

"Fe gododd fy ysbryd ddigon fel pan ddes i'n ôl, fe wnes i ffonio fy ffrind Adam, gofyn am help, ac fe arweiniodd yr alwad ffôn honno at y newidiadau sy’n golygu fy mod yn dal i eistedd ar y grisiau hyn yn fy fflat heddiw.

"Dyna pa mor agos oedd hi, a’r peth rwy’n myfyrio arno yw na fyddai neb wedi cael unrhyw syniad - wrth edrych cyn neu hyd yn oed wedyn - am y groesffordd yr oeddwn arni."

'Lleihau stigma'

Daeth â’r fideo i ben drwy ddweud ei fod yn rhannu ei stori i nodi Wythnos Iechyd Meddwl, gyda'r bwriad o "leihau cywilydd a stigma" yn ogystal â "rhoi gobaith go iawn i bobl" a "helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu gweld".

Ychwanegodd Mr George: "Mae dyddiau gwael yn dod.

"Mae rhai dyddiau’n dywyll iawn, ond mae dyddiau gwell bob amser ar y ffordd.

"Rwyf eisiau i bobl wybod, beth bynnag sy’n digwydd, eich bod yn haeddu byw, eich bod yn cael eich caru ac y dylech aros."

Mae Dr George yn cyflwyno’r podlediad Stompcast, sydd wedi’i greu i gadw cwmni i bobl wrth iddynt fynd am dro i helpu i wella eu lles meddyliol a chorfforol.

Mae wedi ysgrifennu llyfrau ar iechyd meddwl, gan gynnwys Am I Normal? a The Mind Manual.

Os ydych chi wedi eich heffeithio gan gynnwys yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.