Cyn-aelod Bwncath heb dorri safonau proffesiynol athrawon

Alun Bwncath

Mae panel disgyblu Cyngor y Gweithlu Addysg wedi penderfynu nad oedd y cyn-athro a chyn-aelod o’r band Bwncath, Alun Jones Williams, wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol annerbyniol.

Cafodd y canlyniad ei gyhoeddi ddydd Mercher 13 Mai wedi gwrandawiad disgyblu tridiau gan Gyngor y Gweithlu Addysg.

Wrth gyhoeddi’r penderfyniad, dywedodd y panel nad oedd achos o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi.

Yn Ebrill 2024, fe gafodd achos cyfreithiol yn ei erbyn ei ollwng wedi iddo gael ei gyhuddo o gyfathrebu’n rhywiol â phlentyn.

Cyhoeddodd y barnwr bod yr achos ei atal wedi i’r erlyniad beidio â chynnig unrhyw dystiolaeth yn ei erbyn. Roedd Alun Jones Williams wedi gwadu'r cyhuddiad yn ei erbyn.

Mewn gwrandawiad ar wahân ddydd Mercher roedd Cyngor y Gweithlu Addysg, y CGA, yn honni ei fod wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol annerbyniol fel athro cofrestredig.

Yn ôl y CGA, ni wnaeth Mr Williams wadu anfon negeseuon a lluniau at ferch 15 oed.

Dywedodd Mr Williams wrth y panel disgyblu ei fod yn credu bod y ferch yn 18 oed.

Yn ystod y gwrandawiad, clywodd y panel yr honiad nad oedd Mr Williams wedi cymryd digon o ofal i wirio oedran y plentyn wrth gyfnewid negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.

Wrth grynhoi’r dystiolaeth gerbron y panel, dywedodd yr ymgynghorydd cyfreithiol, Owain James, fod Mr Williams yn dweud nad oedd yn gwybod beth oedd oedran y ferch.

Dywedodd fod Mr Williams a’r ferch wedi cyfeirio sawl gwaith at elfennau o fywyd oedolyn, gan gynnwys yfed, ysmygu a gweithio.

Yn ôl tystiolaeth y ferch, pan ofynnwyd iddi a fyddai Mr Williams wedi gallu gwybod beth oedd ei hoedran, dywedodd mai “dim ond” pe bai wedi gweld lluniau ohoni yn ei gwisg ysgol ar Instagram.

Dywedodd Mr Williams nad oedd wedi gwirio ei chyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Roedd y panel yn fodlon bod Mr Williams wedi gofyn i’r ferch beth oedd ei hoedran.

Roedd y panel hefyd yn fodlon nad oedd wedi defnyddio ei statws na’i lwyddiant fel aelod o’r band Bwncath i’w fantais yn yr achos.

Ystyried yn ofalus

Dywedodd Mr James nad oedd achos o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi.

Er hynny, rhoddodd y panel air o gyngor, gan ddweud y dylai Mr Williams, ac unigolion mewn sefyllfa debyg, ystyried eu hymddygiad yn ofalus.

Roedd Mr Williams yn athro mathemateg yn Ysgol Godre’r Berwyn yn y Bala ar y pryd.

Nid oedd y ferch yn ddisgybl yn yr ysgol lle’r oedd Mr Williams yn gweithio.

Clywodd y panel fod Mr Williams wedi anfon sawl llun a neges o natur rywiol iawn at y plentyn.

Nid oedd Mr Williams yn bresennol yn y gwrandawiad.

Roedd wedi ysgrifennu at y rheoleiddiwr yn dweud na fyddai’n cymryd rhan, nad oedd am ddychwelyd i ddysgu, a’i fod yn derbyn y byddai’r gwrandawiad yn mynd yn ei flaen hebddo.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.