Comisiwn: Taclo tlodi plant yn 'flaenoriaeth hirdymor' ond cyfradd Cymru dal yn uchel

Mam a'i phlant, arian

Mae’n “bryder” bod cyfraddau tlodi plant yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch na gweddill y DU er bod mynd i’r afael â’r broblem wedi bod yn “flaenoriaeth hirdymor” ers cychwyn datganoli, yn ôl corff hawliau dynol.

Mewn asesiad newydd, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn dweud bod “camau sylweddol” wedi eu cymryd i ddileu tlodi plant, ond yn pryderu bod lefelau’n parhau i fod yn uchel.

Yn ei werthusiad, mae’r EHRC yn asesu’r polisïau sy’n anelu i ddelio â’r sefyllfa yng Nghymru ochr yn ochr ag ymrwymiadau llywodraethau Cymru a’r DU i hybu hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol fel rhan o gyfamod gyda’r Cenhedloedd Unedig.

Yn ôl yr EHRC, dylai Llywodraeth Cymru “weithredu’r holl argymhellion” a wnaed gan un o bwyllgorau’r Cenhedloedd Unedig yn 2025, sy’n annog yr awdurdodau i ganolbwyntio ar hawliau plant er mwyn lleihau tlodi.

Dywedodd y llywodraeth, sydd bellach dan reolaeth Plaid Cymru yn dilyn etholiadau ym mis Mai, ei bod yn “cydnabod y pryderon” ac y byddan nhw’n ystyried argymhellion yr EHRC yn ofalus.

Ychwanegodd llefarydd fod yr awdurdodau yn “benderfynol o fynd i'r afael â thlodi plant,” gan gyfeirio at ymdrechion i ehangu cynnig gofal plant Cymru.

Cynnydd - ond oes angen mwy?

Nododd yr EHRC fod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu sawl un o’r argymhellion gafodd eu cyflwyno gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol ym mis Mawrth 2025.

Cyhoeddodd y llywodraeth strategaeth newydd ar dlodi plant ym mis Mehefin eleni, yn ogystal â diweddaru’r ffordd y mae’n mesur tlodi plant ychydig fisoedd ynghynt. Cyfeiriodd yr EHRC at asesiad a wnaed ar sail cynllun peilot i roi incwm sylfaenol i bobl ifanc oedd wedi bod mewn gofal.

Ond dywedodd y comisiwn fod “argymhellion heb eu gweithredu o hyd” ac y dylai’r llywodraeth fwrw ati i’w “gweithredu’n llawn cyn adolygiad nesaf y Cenhedloedd Unedig ym mis Mawrth 2027.”

“Mae gan bob un ohonom hawl i do uwchben ein pennau, digon o fwyd i'w fwyta a digon o arian i fyw arno,” meddai Martyn Jones, Comisiynydd Cymru’r EHRC.

“Mae ein hawliau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol yn sail i'r disgwyliadau sylfaenol hyn – ac eto, mae llawer o blant yng Nghymru yn mynd heb y pethau yma.”

‘Penderfynol’

Dywedodd y llywodraeth: “Rydyn ni’n benderfynol o fynd i'r afael â thlodi plant a rhoi'r cyfle i bob plentyn yng Nghymru ffynnu. Yn ein 100 diwrnod cyntaf, rydyn ni eisoes wedi cymryd camau sylweddol i ehangu gofal plant a ariennir.
 
“Mae pob un o'r 22 awdurdod lleol bellach ar y trywydd i gynnig 12.5 awr yr wythnos o ofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru i bob plentyn dwy oed erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, o'i gymharu â dim ond tri awdurdod lleol pan ddaeth y llywodraeth hon i rym.
 
“Mae'r cynnydd cyflym hwn yn rhoi Cymru ar y trywydd iawn i ddarparu'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn y DU. Rydyn ni hefyd wedi ymestyn Prydau Ysgol Am Ddim i fwy o ddisgyblion ac yn bwrw ymlaen â thaliad plant Cynnal ar gyfer teuluoedd incwm isel, ochr yn ochr â Strategaeth Tlodi Plant newydd gyda thargedau a mesurau atebolrwydd clir.”
 
Ychwanegodd: “Rydyn ni’n cydnabod y pryderon a godwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Wrth barhau i ddarparu cymorth ymarferol i deuluoedd nawr, byddwn yn ystyried yn ofalus ei argymhellion ar hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol fel rhan o'r camau gweithredu hirdymor sydd eu hangen i ddileu tlodi plant yng Nghymru."

Llun: PA/Danny Lawson/Lucy North

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.