Cogyddes ysgol yn y Cymoedd yn ennill gwobr Jamie Oliver am 45 mlynedd o wasanaeth
Mae cogyddes sydd wedi bod yn gweithio mewn ysgol gynradd yn y Cymoedd am 45 o flynyddoedd wedi ei gwobrwyo am ei hymdrechion.
A hithau bellach yn brif gogydd yn Ysgol Gynradd Coed Duon, mae Phyllis Levi a'i thîm yn bwydo 300 o ddisgyblion bob dydd.
Cafodd ei gwaith caled ei gymeradwyo yng ngwobrau'r Good School Food Awards, sydd yn gynllun dan ofal y cogydd Jamie Oliver.
Derbyniodd Phyllis wobr 'Cyflawniad Oes' am ei gwaith.
Wrth ddisgrifio ei chyfraniad, dywedodd Jamie Oliver fod gwaith y gogyddes wedi bod yn "arbennig iawn".
“Mae bwyd ysgol gwych yn gwneud mwy na llenwi plant, mae'n gwneud iddyn nhw deimlo eu bod nhw'n cael gofal, yn eu bywiogi i ddysgu, bod yn greadigol ac yn bwysicach fyth, yn eu gwneud nhw'n gyffrous i ddod i'r ysgol y diwrnod canlynol.
"Mae'r hyn y mae Phyllis wedi'i wneud dros fwy na 45 mlynedd yn arbennig iawn, mae hi wedi ymroi gwaith ei hoes i feithrin hyder plant trwy fwyd.
"Mae hi wedi rhoi sgiliau iddyn nhw ar gyfer bywyd, sgiliau a all eu harwain i'r gwaith a chyffro am fwyd y gallant ei gymryd adref. Mae'n mynd y tu hwnt i gatiau'r ysgol ac i ddyfodol y plant hyn.
"Mae'n anrhydedd coroni Phyllis fel enillydd Gwobr Cyflawniad Oes a dangos i'r genedl pa mor wych yw hi a pham mae'r gwaith hwn yn bwysig.”
Dywedodd un o gyd-feirniaid Jamie Oliver, Mary Berry: “Mae'n amlwg bod Phyllis yn gwbl ymroddedig i'w swydd.
"Mae mor hyfryd ei bod hi'n adnabod pob plentyn wrth ei henw ac wedi codi trwy'r rhengoedd wrth gefnogi'r gymuned, ac am yr holl flynyddoedd hyn wedi gweini bwyd maethlon, blasus sy'n cael ei werthfawrogi'n wirioneddol gan y plant, y staff a'r rhieni.”

