'Siom' fod cofeb LHDT+ i gymeriad teledu yng Nghaerdydd yn cael ei thynnu i lawr

ITV Cymru
Ffeindiodd Carol-Anne Torchwood trwy band Gareth, Blue Gillespie

Mae’n “siom” fod cofeb i gymeriad mewn cyfres teledu ym Mae Caerdydd yn cael ei thynnu lawr, yn ôl un sydd wedi bod yn gofalu amdani.

Mae ‘Cofeb Ianto’, neu ‘Ianto’s Shrine’ yn deyrnged i gymeriad o’r gyfres deledu ‘Torchwood’ oedd ar y BBC rhwng 2006 a 2011.

Roedd Ianto yn gymeriad hoyw, ac roedd nifer ar y pryd yn ei weld fel symbol pwysig o gynrychiolaeth LHDT+ ar deledu cenedlaethol yn ystod oriau brig.

Ym Mae Caerdydd oedd y mynediad cudd i sefydliad Torchwood ar y rhaglen.

Ond, ar ôl 17 o flynyddoedd, mae’r gofeb a’r holl addurniadau yn cael eu tynnu i lawr. 

Yn ôl llefarydd ar ran Cei'r Fôr-forwyn ym Mae Caerdydd, mae hyn er mwyn gwneud “gwaith cynnal a chadw” yn yr ardal.

'Mwy na' cymeriad' 

Mae Carol-Anne Hillman wedi bod yn edrych ar ôl y gofeb a hynny yn wirfoddol am bron i ddegawd.

“Rydw i wedi fy siomi," meddai hi.

Fe ddechreuodd ei diddordeb fel ffan o’r gyfres Torchwood sydd wedi’i ffilmio gerllaw, a bellach mae’n dweud bod cofeb Ianto “yn rhan enfawr o fy mywyd yng Nghaerdydd".

“I nifer mae'n fwy na cymeriad. Dyna’r tro cyntaf i nifer weld perthynas o’r fath ar y teledu.”

Mae Carol-Anne yn ceisio gwarchod yr holl eitemau sydd ar y gofeb er mwyn gallu ail-adeiladu’r gofeb unwaith mae’r gwaith atgyweirio wedi dod i ben.

“Fi ’di gwario cannoedd ar addurniadau am y gofeb,” meddai hi.

Mae’r cyngor wedi cynnig mainc ar y safle er mwyn i Carol-Anne allu rhoi plac i gofio am y sioe.

Yn ôl Cei'r Fôr-forwyn: "Mae angen y gwaith hwn i sicrhau bod y rhodfa isaf yn parhau i ddarparu profiad gwych i'n holl ymwelwyr.”

Image
Roedd Ianto ym mherthynas gyda Captain Jack, a chwaraewyd gan John Barrowman.
Roedd Ianto mewn perthynas gyda cymeriad Captain Jack, a oedd yn cael ei chwarae gan John Barrowman. 

Yn y gorffennol, fe ddywedodd Gareth David Lloyd, oedd yn chwarae rhan Ianto ei fod yn “syndod i sylweddoli’r effaith ddiwylliannol” yr oedd Ianto a'i berthynas â Jack wedi’i gael.

Fe ddisgrifiodd poblogrwydd y greirfa ym Mae Caerdydd fel peth “gwallgof” ond ei fod yn “falch iawn” o’r cymeriad. 

"Rwy'n synnu ei fod wedi sefyll cyhyd - bob blwyddyn rydw i'n meddwl ei fod yn  syfrdanol ei fod yno o hyd," meddai wrth Radio Wales.

"Ond hefyd mae'n braf iawn, yn gyffrous iawn, meddwl bod cymeriad y gwnes i gyfrannu at ei greu wedi cael y fath effaith, wedi gwneud cymaint o farc ar bobl."

Image
itv 2
Fe wnaeth Carol-Anne ffeindio Torchwood ar ôl dilyn band Gareth, Blue Gillespie

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.