Claf hepatitis C o Gwmbrân yn annog grwpiau sydd mewn perygl i gael eu profi

Andrew Green

Mae claf hepatitis C o Gwmbrân sydd wedi gwella o'r haint yn annog grwpiau sydd mewn perygl o'i ddal i gael eu profi, eu trin a’u hiacháu.

Fe gafodd Andy Green ddiagnosis o hepatitis C yn wreiddiol yn yr Unol Daleithiau yn y 1990au, ar ôl mynd at ei feddyg oherwydd ei fod yn dioddef o flinder eithafol.

Doedd dim modd cael gwybod sut y cafodd hep C, ond fe ddywedodd ei feddyg ar unwaith: "Does dim ots sut gawsoch chi ef, wnewn ni ddelio â'r hyn sydd gennych chi".   

Dywedodd Andy: "Roedd fy niagnosis yn sioc, a dydw i ddim yn gwybod sut y cefais i ef.  

"Ond doedd sut y cefais i’r afiechyd o ddiddordeb i’r meddyg, felly roeddwn i’n teimlo’n syth nad oedd stigma iddo, ac fe aethon ni ati i ganolbwyntio ar drin y salwch."

Fe symudodd Andy, sy'n gweithio yn GIG Cymru, i Gwmbrân ar ôl priodi â Chymraes. 

Roedd yn gallu cael mynediad at driniaeth hynod effeithiol ar gyfer hepatitis C, ac mae'n un o gannoedd o gleifion sy'n cael eu trin am yr afiechyd yng Nghymru bob blwyddyn. 

'Cael fy mywyd yn ôl'

Ychwanegodd Andy: “Dim ond ychydig wythnosau o gymryd tabled ddyddiol oedd hi. Doedd gen i ddim sgil-effeithiau, ac yna'n sydyn, roedd y feirws wedi diflannu'n llwyr. 

"Roeddwn i’n teimlo fel mod i wedi cael fy mywyd yn ôl – roedd baich wedi mynd oddi ar fy meddwl.  Roedd gen i ofn yng nghefn fy meddwl erioed y gallai fy merch ei ddal gen i ar ddamwain, ac mae'r ofn hwnnw wedi diflannu'n llwyr nawr."

Mae hepatitis C yn feirws sy'n cael ei gludo'n y gwaed. 

Yn y DU, mae'r risgiau trosglwyddo yn cynnwys rhannu offer defnyddio cyffuriau fel nodwyddau neu bibellau crac, neu gael rhyw heb ddiogelwch gyda rhywun sydd â hepatitis C.

Yn ogystal, gall ymweld â safleoedd heb drwydded neu heb eu rheoleiddio ar gyfer tatŵs, tyllu, neu driniaethau harddwch fel botox hefyd gyflwyno risg.

Mae hepatitis C cronig yn gyflwr difrifol a all arwain at ganser yr afu a sirosis yr afu. 

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y cyflwr yn gallu bod yn heriol ei ddiagnosio, am fod y symptomau sy’n cynnwys blinder, diffyg archwaeth, cyfog, poen yn y stumog a chlefyd melyn, yn eang eu natur. 

Ychwanegodd Dr Daniel Thomas, Epidemiolegydd Ymgynghorol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae hepatitis C yn glefyd tawel a all achosi salwch hirdymor, ond gyda phrawf gwaed syml a meddyginiaethau effeithiol, mae'n hawdd ei ddiagnosio ac yn hawdd iawn ei drin.

"Yn bendant, dylai unrhyw un sy’n wynebu risg gael prawf trwy wasanaeth Profi a Phostio Iechyd Cyhoeddus Cymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.