Chwe Gwlad: Sean Lynn yn enwi tîm Cymru ar gyfer her yr Alban
Mae hyfforddwr Cymru Sean Lynn wedi cyhoeddi ei dîm ar gyfer gêm agoriadol Chwe Gwlad y Menywod eleni yn erbyn yr Alban, gyda dwy o'r chwaraewyr yn cael eu cynnwys am y tro cyntaf.
Mae’r asgellwr Seren Singleton a’r clo Jorja Aiono wedi’u cynnwys yn nhîm Cymru, gyda’r blaenasgellwr Kate Williams yn gapten.
Mae Aiono wedi’i dewis yn yr ail reng wedi iddi greu argraff gyda Brython Thunder, gyrhaeddodd rownd gynderfynol yr Her Geltaidd ym mis Mawrth.
Mae Seren Singleton wedi’i henwi ar yr asgell wedi iddi hawlio’i lle’n gyson yn nhîm Brython Thunder dros y tri tymor diwethaf.
Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru: “Mae’n fraint enfawr enwi dau gap newydd, Jorja Aiono a Seren Singleton. Mae’r ddwy wedi llawn haeddu’r cyfle yma gan eu bod wedi creu argraff arbennig yn yr Her Geltaidd ac ers i’r garfan ddod at ein gilydd i ymarfer."
Fe fydd Cymru yn anelu am fuddugoliaeth dros yr Albanwyr yn Stadiwm y Principality, ar ôl tymor siomedig y llynedd wrth i'r tîm orffen ar waelod y tabl.
Ychwanegodd Lynn: “Mae hwn yn ddechrau newydd i Gymru a dyma’r cam cyntaf i’r grŵp newydd yma o chwaraewyr, hyfforddwyr a staff.
“Mae’r chwaraewyr yn gwybod ein bod ni’n cynrychioli’r genedl, ein teuluoedd a ni’n hunain, ac mae hwn yn gyfle i ddangos pwy y’n ni a beth mae’n ei olygu i wisgo’r crys coch.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2042203037066834416?s=20
Yr wythwr Bryonie King a’r blaen-asgellwr Bethan Lewis fydd yn ymuno â Kate Williams yn y rheng ôl.
Bydd Jorja Aiono yn bartner i Gwen Crabb yn ail reng Cymru, a bydd Gwenllian Pyrs, Kelsey Jones a Sisilia Tuipulotu o’u blaenau yn y rheng flaen.
Y ddeuawd profiadol Keira Bevan a Lleucu George fydd yn dechrau’r ornest yn erbyn Yr Alban fel haneri Cymru.
Mae Sean Lynn wedi dewis Courtney Keight a Carys Cox yng nghanol y cae, gyda Singleton a’r profiadol Lisa Neumann ar yr esgyll. Kayleigh Powell fydd yn cwblhau tri ôl Cymru’n safle’r cefnwr.
Llun: Jorja Aiono a Seren Singleton (Asiantaeth Huw Evans)