'Chwalu'r stigma': Gofalwr maeth o Sir Gâr yn canmol clwb rygbi am helpu plant i ffynnu

Llun: Cyngor Sir Gaerfyrddin
Keith Evans

Mae gofalwr maeth o Sir Gaerfyrddin wedi canmol y gefnogaeth y mae ei glwb rygbi lleol wedi'i rhoi i'r plant yn ei ofal, gan ddweud bod chwaraeon wedi eu helpu i fagu hyder a theimlo'n rhan o'r gymuned.

Mae Keith Evans, sy'n wreiddiol o Lanelli ac yn hyfforddwr yng Nghlwb Rygbi Rhydaman, wedi bod yn maethu plant gyda'i bartner Becky ers 17 mlynedd.

Mae'r ddau hefyd wedi mabwysiadu, ac mae Becky yn gweithio fel mentor i gefnogi gofalwyr maeth eraill.

Dywedodd Keith iddo gael ei ysbrydoli i ddechrau maethu gan Becky, ei bartner ers dros 20 mlynedd.

"Doedd maethu ddim yn rhywbeth roeddwn i erioed wedi meddwl amdano. Fe wnes i ddechrau bod mewn perthynas gyda fy mhartner Becky, ac roedd yn rhywbeth roedd hi am ei wneud," meddai.

"Roedd arfer bod stigma'n gysylltiedig â phlant maeth eu bod nhw bob amser yn achosi trafferth ac fe wnes i baratoi'r ffordd a dweud, 'na, nid fel hynny mae hi’. Mae pob plentyn yn arbennig a dylid ei drin yr un peth."

Rôl rygbi

Yn ôl Keith, mae Clwb Rygbi Rhydaman wedi chwarae rhan bwysig wrth helpu'r plant yn eu gofal i wneud ffrindiau a datblygu eu hyder.

Mae'r plant wedi cymryd rhan mewn rygbi, pêl-droed neu'r ddau, ac mae'n dweud bod awyrgylch teuluol y clwb wedi bod yn arbennig o werthfawr.

"Mae gan ein plant i gyd ddiddordeb mewn chwaraeon, gan chwarae naill ai rygbi, pêl-droed, neu'r ddau. Maent wir wedi cael eu croesawu gan y clwb, sy'n eu helpu i ffynnu a ffurfio cwlwm ag eraill," meddai.

"Rwy'n cael llawer o gefnogaeth gan hyfforddwyr a rhieni eraill. Er enghraifft, os oes angen i un o'm plant ifanc fynd adref yn gynnar, bydd rhywun o'r clwb yn fy helpu. Mae fel un teulu mawr yma."

Ychwanegodd Keith ei fod hefyd am herio'r stigma sy'n gallu bod yn gysylltiedig â phlant mewn gofal, ac annog rhagor o bobl i ystyried maethu.

"Rydw i am i bobl ddeall asgwrn cefn maethu a'r ymroddiad sydd ei angen oherwydd mae'n rhan fawr o'ch bywyd. Dyma eich bywyd chi."

"Os oes gennych chi amser ac rydych chi am helpu plant eraill, gwnewch hynny, ewch amdani. Rydych chi'n helpu llawer o blant i fagu hyder i wneud pethau anhygoel."

Image
Keith Evans
Mae Keith yn hyfforddi timau iau Clwb Rygbi Rhydaman. Llun: Cyngor Sir Gaerfyrddin

Faint o blant sydd mewn gofal maeth?

Yn ôl ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru, roedd 7,072 o blant yng ngofal awdurdodau lleol yng Nghymru ar 31 Mawrth 2025, gostyngiad o 1% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

O'r rheini, roedd 4,793 o blant, neu 68%, mewn lleoliadau gofal maeth.

Roedd ychydig dros draean o'r plant mewn gofal maeth, sef 34%, wedi'u lleoli gydag aelodau o'u teuluoedd neu ffrindiau.

Mae'r ffigurau hefyd yn dangos bod 601 o blant mewn gofal wedi bod mewn tri lleoliad neu fwy yn ystod y flwyddyn.

Ledled y Deyrnas Unedig, mae bron i 67,000 o blant yn byw gyda thua 52,000 o deuluoedd maeth ar unrhyw ddiwrnod, yn ôl yr elusen The Fostering Network.

Mae hynny'n cynrychioli mwy na dwy ran o dair o'r plant sydd mewn gofal oddi cartref ledled y DU.

'Helpu plant i gyrraedd eu potensial'

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd, fod cyfraniad Keith a Becky yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'w cartref.

"Mae'r gefnogaeth y mae Keith a Becky yn ei darparu yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'w cartref. Trwy faethu a chyfranogiad Keith mewn rygbi lleol, maent yn helpu plant i fagu hyder, datblygu perthynas gadarnhaol ag eraill a theimlo'n gysylltiedig â'u cymuned.

"Mae eu stori yn enghraifft wych o sut y gall gofalwyr maeth helpu plant a phobl ifanc i gyrraedd eu potensial."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.