Cerflun o seren Monty Python wedi ei ddadorchuddio ym Mae Colwyn
Cafodd cerflun un o sêr y gyfres gomedi Monty Python ei ddadorchuddio ym Mae Colwyn ddydd Sadwrn.
Fe gafodd Terry Jones, a fu farw yn 77 oed yn 2020, ei eni a’i fagu ym Mae Colwyn cyn symud i Loegr pan oedd yn bedair oed.
Un o gymeriadau mwyaf enwog Jones oedd yr organydd noethlymun a ymddangosodd ar Monty Python’s Flying Circus yn 1972.
Fe lwyddodd ffans y gyfres i godi £120,000 mewn chwe mis ar gyfer y gwaith gan y cerflunydd Nick Elphick, sydd â’i stiwdio i lawr y ffordd yn Llandudno.
Roedd y cerflun, sy’n dangos Terry Jones yn chwarae’r organ heb ddillad amdano wedi ei ddadorchuddio gan sêr eraill cyfres Monty Python, Michael Palin a Terry Gilliam, am 12:00.
Fe fydd ar gael i'w weld ar y promenâd rhwng Porth Eirias a’r Pier.
Dywedodd Sally Jones, merch Terry, bod y cerflun yn dathlu "creadigrwydd o bob math."
“Rydym ni am i’r dathliad hwn adlewyrchu diddordebau eclectig Dad, o’i lyfrau bendigedig i blant i’w angerdd tuag at hanes canoloesol a gafodd gymaint o ddylanwad ar waith Monty Python," meddai.
“Rydym hefyd eisiau hyrwyddo artistiaid a phobl greadigol leol, a fydd yn cynnal gweithdai ac yn creu gweithiau celf wedi’u hysbrydoli gan Dad a’i waith.
"I’r diben hwn, rydym yn hynod ddiolchgar am y cyllid a gawsom gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Tref Bae Colwyn, sydd wedi’n helpu ni i fynd ati o ddifrif i ddathlu creadigrwydd o bob math, yn union fel y gwnaeth Dad!”
Theatr Colwyn, Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy a theulu Terry Jones sy’n cynnal y digwyddiad, ac maen nhw'n disgwyl croesawu cefnogwyr Monty Python o bob cwr o’r DU.
Fel rhan o’r broses o greu’r cerflun, dywedodd Nick Elphick ei fod wedi cwrdd â Sally ac wedi mynd drwy ei archif bersonol i chwilio am nodiadau ysgrifenedig a lluniau.
Ychwanegodd mai fe yw'r "cerflunydd mwyaf lwcus erioed" wedi iddo gael ei ddewis i greu'r cerflun.
“Roedd hi mor bwysig i mi gael gwên Terry’n iawn. Felly fe luniais i 10 portread ohono gyda sawl gwahanol olwg ar ei wyneb, ac rydw i’n gobeithio’n arw fy mod i wedi gwneud cyfiawnder ag ef.
“Rydw i’n teimlo mai fi yw’r cerflunydd mwyaf lwcus erioed, gydag elfen o fod yn y lle iawn ar yr adeg iawn, i gael dod â Terry Jones yn ôl i ogledd Cymru.”