Cefnogwyr Andy Burnham yn anhapus â Wes Streeting am ail agor dadl Brexit

Andy Burnham a Wes Streeting

Mae cefnogwyr Andy Burnham wedi beirniadu ei wrthwynebydd am arweinyddiaeth Llafur, Wes Streeting, am ail agor y ddadl am Brexit.

Dywedodd Wes Streeting mai ail ymuno â’r Undeb Ewropeaidd (UE) fyddai orau i Brydain.

Fe wnaeth Streeting ymddiswyddo fel ysgrifennydd iechyd yr wythnos diwethaf. 

Ddydd Sadwrn fe wnaeth ei sylwadau am yr UE wrth iddo gyhoeddi hefyd y byddai’n sefyll mewn unrhyw ras am arweinyddiaeth Llafur.

Mae cefnogwyr Andy Burnham yn anhapus gyda Mr Streeting, yn ôl papur newydd The Times, gan ei weld fel ymgais fwriadol i’w wneud yn anoddach i Andy Burnham ennill etholaeth Makerfield.

Mae Maer Manceinion yn wynebu brwydr galed yn yr etholaeth honno, a bleidleisiodd dros adael, a hynny yn erbyn plaid Reform sydd yn gwrthwynebu ail-ymuno â’r UE. 

Mae Ysgrifennydd Diwylliant Lisa Nandy wedi dweud bod ymgais Mr Streeting i wneud Ewrop yn ganolbwynt i’w ymgyrch i olynu Syr Keir yn “rhyfedd”.

“Os mai ailymuno â’r UE yw’r ateb, yna yn y bôn yr hyn rydym yn ei ddweud wrth bobl yw, ‘roedd bywyd yn iawn yn 2015, mae angen i ni fynd yn ôl yno’,” ychwanegodd Ms Nandy. Mae hi'n cael ei hystyried yn gefnogwr i Andy Burnham.

Dywedodd Andy Burnham wrth gael ei gyfweld dros y penwythnos fod “achos hirdymor” dros ailymuno â’r UE, ond pwysleisiodd nad oedd yn ymgyrchu ar y mater hwnnw yn yr isetholiad.

'Penderfyniad personol'

Mae arweinydd Reform, Nigel Farage, eisoes wedi galw Maer Manceinion yn “Burnham o blaid y ffiniau agored” (‘open borders Burnham’).

“Mae safbwynt Andy Burnham yn codi cwestiynau difrifol,” meddai Mr Farage wrth y Daily Express. 

“Ar adeg pan mae miliynau o bleidleiswyr yn mynnu rheolaeth dros ein ffiniau, mae’n parhau i ddadlau dros ailymuno â phrosiect Ewropeaidd sydd wedi’i adeiladu o amgylch symudiad rhydd 500 miliwn o bobl.”

Ychwanegodd Lisa Nandy nad oedd Syr Keir Starmer eto wedi penderfynu a fyddai yn sefyll oes oedd unrhyw her i’w arweinyddiaeth. Ond mae Starmer wedi mynnu’n gyhoeddus y byddai yn ymladd unrhyw her. 

Dywedodd wrth y BBC fore Sul: “Mae’n benderfyniad personol iawn iddo ef.

“Fyddwn i ddim yn diystyru’r Prif Weinidog, ond byddwn i’n dweud mai penderfyniad personol iawn yw hwn.

“Mae’n rhaid iddo wneud y penderfyniad hwnnw ei hun.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.