Catherine Zeta Jones: 'Fy nghariad at yr Elyrch yn fy atal rhag mynd i Wrecsam'

catherine-zeta-jones
Mae'r actores fyd-enwog Catherine Zeta-Jones wedi trafod ei chariad at Glwb Pêl-droed Abertawe, a'r cariad hwnnw yn ei hatal rhag ymddangos ar gyfres deledu boblogaidd am Glwb Pêl-droed Wrecsam.
 
Wrth siarad ar raglen radio Heart Breakfast gyda Jamie Theakston ac Amanda Holden fore dydd Mercher, dywedodd Zeta-Jones ei bod wedi cael cais gan Ryan Reynolds i ymddangos yn ei gyfres deledu Welcome to Wrexham "llawer o weithiau", ond roedd wedi gwrthod bob tro.
 

“Mae’n anodd iawn esbonio i Americanwyr fy mod i’n dod o Abertawe ac wedi cael fy magu gyda (chlwb) Dinas Abertawe,” meddai.

“Roedd fy ewythr Bobby yn gyfarwyddwr i’r Elyrch pan arweiniodd John Toshack y tîm i’r Uwch Gynghrair. 

"Roeddwn i yn y sedd flaen yn ystod y parêd. Rydw i wedi bod yn gefnogwr Dinas Abertawe gydol fy oes.”

Mae cyfres Welcome to Wrexham gan Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi mwynhau llwyddiant rhyngwladol ers i'r ddau actor brynu'r clwb yn 2021.

Ychwanegodd yr actores yn y cyfweliad: “Alla i ddim mynd i Wrecsam.” 

“Alla i ddim hyd yn oed mynd i Wrecsam i ddweud wrthyn nhw faint rydw i’n caru Abertawe. 

"Dwi’n meddwl y bydden nhw’n taflu brics ata i yn y stryd,” ychwanegodd.


 

 

 
 
 
 
 
 


 

 

 

“It’s really hard to explain to Americans that I am from Swansea and I was brought up with Swansea City,” she told Heart Breakfast’s Jamie Theakston and Amanda Holden on Wednesday morning.

“My uncle Bobby was director of the Swans when John Toshack took us to the Premiership. I was in the front seat of the parade. I have been a lifelong Swansea City fan.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.