Castell-nedd: Dynes 45 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad beic modur
Mae dynes wedi marw ar ôl gwrthdrawiad beic modur ger Pwll Glo Cefn Coed, y Creunant ger Castell-nedd ddydd Sul.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4109 tua 15.00 ddydd Sul 16 Awst, ac mae’r heddlu yn apelio ar dystion.
Bu farw’r gyrrwr, menyw 45 oed o Greunant, Castell-nedd Port Talbot, yn y fan a’r lle er gwaethaf ymdrechion gorau pobl a oedd yn mynd heibio, ac yn ddiweddarach, staff meddygol.
Mae ei theulu’n derbyn cymorth gan swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu sydd â lluniau camera cerbyd, gysylltu â nhw drwy ffonio 101 a dyfynnu rhif y digwyddiad 2600268317.
Mae’r ffordd wedi ailagor ers hynny ar ôl gwaith ymchwilio i’r gwrthdrawiad.