Carwyn Jones yn cofio'r her o ymdopi gyda chlwy'r traed a'r genau
Mae un o gyn-Brif-Weinidogion Cymru wedi dweud bod y gwersi a ddysgodd wrth ddelio gyda chlwy'r traed a'r genau yn 2001 wedi ei helpu i baratoi ar gyfer arwain ei wlad yn ddiweddarach.
Roedd Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru rhwng 2009 a 2018. Cyn hynny roedd yn Ysgrifennydd Amaeth yng Nghymru ac yn gyfrifol am ymateb i'r argyfwng clwy'r traed a'r genau.
Mae 25 mlynedd wedi mynd heibio ers i'r argyfwng hwnnw ysgwyd seiliau cefn gwlad am saith mis.
Bu’n rhaid i chwe miliwn o anifeiliaid gael eu difa ledled y DU, gan gostio £3bn i'r trethdalwr.
Yng Nghymru, cafodd mwy na miliwn o anifeiliaid eu difa gyda'r Fyddin yn cael eu galw i helpu.
Roedd yn glefyd heintus iawn oedd yn effeithio yn bennaf ar wartheg, moch, defaid a geifr, gan achosi anhrefn yn y diwydiant amaethyddol.
Wrh fyfyrio ar y cyfnod hwnnw ar raglen Ffermio ar S4C, dywedodd Mr Jones fod y profiad yn sicr wedi ei helpu i baratoi am rôl y Prif Weinidog.
Dywedodd: "O’dd e’n anodd ond wrth gwrs da chi ddim yn derbyn yr amgylchiade am eich gyrfa gwleidyddol ma’ rhaid i chi ddelio gyda beth bynnag sy’ ‘na.
"O’dd rhaid delio gyda fe, odd pobol yn edrych arnai yn delio gyda fe ac wrth gwrs ma rhaid i bobol eryll fynegi barn am faint mor effeithiol o’n i fel gweinidog.
"Wrth edrych yn ôl, o’dd na risg wrth gwrs, ‘se pethe wedi mynd ar ei witha a pobol yn gweud ‘s’dim ffydd gyda ni o gwbwl yn y gweinidog hyn’ fydde hwnna wedi lladd unrhyw fath o yrfa i fi yn y byd gwleidyddol i fod yn hollol onest am hwnna.
"Ond nid felly o’dd hi."
Ychwanegodd Mr Jones: "O’dd e wedi paratoi fi ynglŷn â bod yn brif weinidog achos mae e’n rhoi profiadau i chi ddelio gydag argyfyngau a delio gyda pobol ac ystyried beth yw’r ffordd mwyaf effeithiol i gyfathrebu gyda pobol er mwyn ennill ffydd pobol.
"So o’dd e’n wers, yn wers bydde’r byd ffermo na fi wedi dewis cymryd ond ‘na fel o’dd hi."
Helynt ar Epynt
Un o'r digwyddiadau wnaeth effeithio arno fwyaf o'r cyfnod meddai oedd y protestio ar fynydd Epynt lle roedd cyrff anifeiliaid yn cael eu llosgi mewn coelcerth enfawr.
Roedd ffermwyr lleol yn poeni y byddai hyn yn ymledu'r haint yn lleol.
Esboniodd Carwyn Jones: "Y peth na’ th effaith arnai fwyaf odd Epynt.
"O’dd lot o losgi ar Epynt. Y problem o’dd d’oedd dim modd cael gafael ar y clwy. O’dd dim modd mynd i ffermydd, darganfod y clwy a llosgi cyrff ar y ffermydd, o’dd y clwy yn symud yn gloiach na hynny.
"O’dd rhaid dod ag anifeiliaid i un pwynt canolog er mwyn cyflymu’r holl broses. O’dd ofan ar bobol, o’dd pobol yn meddwl bydde’r clwy yn dod i ran o Gymru nad oedd y clwy wedi bod o’r blaen. O’dd hwnna’n gyfnod anodd dros ben i bawb yn enwedig i bobol o’dd yn byw yn yr ardal."
Ychwanegodd: "Fi’n cofio pobol yn sefyll ar yr hewlydd yn Nhrecastell a Phont Senni a taflu cennin pedr at y cerbydau o’dd yn mynd miwn gyda’r anifeiliaid.
"O’n i’n meddwl 'f’y mhobol i yw’r rhein – beth fi’n neud’.
"Ac o’n i’n dechre gweud 'odw i wedi troi yn erbyn fy mhobol i?'
"Wrth gwrs o’dd dim dewis ar ddiwedd y dydd ac o’dd hwnna’n emosiynol i fi achos o’n i’n timlo bod fi wedi sefyll yn erbyn pobol lleol - dyna’r ffordd o’n i'n gweld e ar y pryd."
Bydd rhaglen Ffermio ar S4C nos Lun 16 Chwefror.