Cartref parhaol yn ne Cymru i gerflun elusennol wedi'i orchuddio â chennin pedr
Mae cerflun o redwr sydd wedi'i orchuddio â chennin pedr ar gyfer Marathon Llundain wedi cael cartref y tu allan i hosbis yn ne Cymru.
Cafodd Y Rhedwr Cennin Pedr ei greu ar gyfer elusen swyddogol y marathon eleni, Marie Curie, i groesawu rhedwyr wrth iddyn nhw gasglu eu bibiau cyn y ras eleni.
Cafodd y cerflun ei greu i annog pobl i feddwl am yr "argyfwng gofal diwedd oes".
Mae’r elusen bellach wedi cyhoeddi y bydd yn cael ei osod yn barhaol y tu allan i Hosbis Marie Curie, ym Mhenarth.
Cafodd y gwaith ei greu â llaw gan y cerflunydd o Rydaman, Alan Ross, cyn-weithiwr gofal sydd bellach yn artist dur - gan gymryd dros fwy na 200 awr i'w gwblhau.
Dywedodd Alan: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu rhoi cartref parhaol i’r cerflun yng Nghymru a’i rannu gyda phawb sy’n ymweld â’r hosbis hon.
“Wrth greu’r cennin pedr, cefais fy nharo gan eu harwyddocâd – mae pob un yn cynrychioli person a fu farw heb gael y gofal diwedd oes yr oedd yn ei haeddu.
"Roedd eu gweld i gyd wedi’u gosod gyda’i gilydd yn brofiad emosiynol iawn.
“Ar ôl colli anwyliaid fy hun, rwy’n gwybod pa mor werthfawr yw gwaith Marie Curie, felly mae wedi bod yn fraint gweithio ar y comisiwn arbennig hwn i’r elusen.”
Wrth adlewyrchu ar y profiad o redeg y marathon eleni, dywedodd Hilary James, gwirfoddolwr gyda grŵp codi arian Marie Curie ym Mhenarth: "Roedd e'n gwbl anhygoel.
"Roedd y gefnogaeth yn arbennig oherwydd y 'cheer zones' ychwanegol i godi calon y rhedwyr.
“Cefais lun gyda Y Rhedwr Cennin Pedr yn yr expo. Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn 2027 yn cael amser gwych.”
Fe wnaeth Marie Curie, sef elusen gofal diwedd oes fwyaf y DU, lwyddo i godi dros £2.3 miliwn fel Elusen Swyddogol Marathon TCS Llundain 2026, gyda 744 o redwyr yn codi arian ar ran yr elusen.
Prif lun: Y cerfluniwr Alan Ross gyda'i waith (Llun: Marie Curie)