Carcharu dyn oedd wedi smalio codi arian i elusen ganser
Mae dyn o Gaerffili wedi’i garcharu ar ôl cyfaddef iddo dwyllo pobl drwy smalio codi arian ar gyfer elusen ganser.
Cafodd Jonathan Sterry, 44 oed, ei ddedfrydu i chwe wythnos yn y carchar pan ymddangosodd o flaen Llys Ynadon Caerdydd ar ddydd Iau, 28 Mai.
Roedd Sterry wedi mynd i dai ar hyd Heol yr Ysgol ym Maesteg rhwng 13 a 15 Medi 2025 gan honni ei fod yn casglu rhoddion i elusen ganser.
Gwelwyd Sterry yn mynd o ddrws i ddrws yn gofyn am roddion o arian parod.
Fe wnaeth ymholiadau ganfod nad oedd gan Sterry unrhyw brawf adnabod, trwydded na chaniatâd i ofyn am gasgliadau elusennol.
Nid oedd chwaith yn gallu darparu unrhyw waith papur oedd yn ei gysylltu ag unrhyw elusen gofrestredig.
Dywedodd Sarjant y Tîm Cymorth Cymdogaeth, Joshua Darra-Edwards: "Roedd hwn yn ymchwiliad trylwyr gan ein timau plismona cymdogaeth.
"Mae pobl yn ein cymuned yn haeddu teimlo’n ddiogel heb orfod poeni am bobl yn galw’n ddirybudd."
