Carcharu dyn ar ôl i gocên gwerth £30,000 gael ei ddarganfod yn ei gar ym Mangor
Carcharu dyn ar ôl i gocên gwerth £30,000 gael ei ddarganfod yn ei gar ym Mangor
Mae dyn 38 oed wedi ei garcharu ar ôl i werth £30,000 o'r cyffur cocên gael ei ddarganfod yn ei gar ar ffordd yr A55 ym Mangor.
Cafodd Lee Hope, o Huyton ger Lerpwl, ei ddedfrydu i ddwy flynedd a chwe mis yn y carchar yn Llys y Goron yr Wyddgrug.
Roedd eisoes wedi pledio'n euog i fod â chocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi.
Ar 21 Awst, fe gafodd swyddogion yr heddlu wybodaeth bod cerbyd yn teithio o Lannau Mersi tuag at ogledd Cymru gyda'r bwriad o ddod â chyffuriau i'r rhanbarth.
Fe wnaeth swyddogion atal y car ar yr A55 ym Mangor ac arestio Hope, oedd yn gyrru'r cerbyd.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, cafodd swm mawr o gocên ei ddarganfod yng nghefn y car.
Dywedodd y Cwnstabl Scott Jones: "Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd y rhai sy'n ceisio dod â chyffuriau anghyfreithlon i ogledd Cymru, a byddwn yn gweithredu ar unrhyw wybodaeth sy'n dod i law gan y gymuned.
"Mae troseddwyr sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau yn achosi niwed difrifol i bobl fregus er mwyn gwneud elw ariannol iddyn nhw eu hunain.
"Rwy'n parhau i annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am gyffuriau yn eu hardal i gysylltu â'r heddlu neu gyflwyno adroddiad dienw i Crimestoppers."
