Carcharu dyn ar ôl dod o hyd i 80 cilogram o gocên mewn fan yng Nghonwy

Cyffuriau Conwy

Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i 80 cilogram o gocên mewn fan yng Nghonwy.

Fe gafodd Krisztian Popovics, 47, o Hwngari, ei ddedfrydu i 19 mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron Lerpwl ddydd Gwener ar ôl i reithgor ei gael yn euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A (cocên).

Ef  yw’r trydydd dyn i gael ei garcharu fel rhan o ymchwiliad gan Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol y Gogledd Orllewin (NWROCU), sydd yn gweithredu yng ngogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.

Gan weithio mewn partneriaeth â heddlu'r Iseldiroedd, arestiodd swyddogion Mr Popovics ar 21 Mai y llynedd ar ôl stopio fan wen yng Nghonwy. 

Datgelodd chwiliad o'r cerbyd guddfan soffistigedig o dan lawr y cerbyd yn cuddio 80 bloc cilogram o gocên oedd wedi'u selio'n unigol.

Dywedodd y Prif Arolygydd Ditectif Kelly Wild o Dîm Gweithrediadau NWROCU bod y ddedfryd yn nodi “cam arwyddocaol arall wrth ddatgymalu grŵp troseddau cyfundrefnol peryglus”. 

“Nid oedd Popovics yn ffigur ymylol - roedd yn ymwneud yn weithredol â hwyluso cyflenwi cyffuriau Dosbarth A, sy’n dinistrio bywydau a chymunedau,” meddai.

“Byddwn yn parhau i fynd ar ôl y rhai sy’n credu y gallant elwa o drallod eraill. 

“Mae ein neges yn parhau’n glir - os ydych chi’n ymwneud â chyflenwi cyffuriau, disgwyliwch gael eich dal a chael eich dedfrydu’n hir yn y carchar.”

Symiau mawr o gocên

Cafodd Popovics ei adnabod yn ystod yr ymchwiliad i Raymond a Nathan Kinnear, a garcharwyd ym mis Mai y llynedd am gyfanswm o fwy na 24 mlynedd. 

Cafodd Raymond Kinnear, 63, oedd yn byw mewn carafan yn Llangollen, a'i fab Nathan Kinnear, 23, o Satinwood Crescent, Melling ar Lannau Merswy eu harestio ar 18 a 19 Mehefin 2024 ar ôl i £1.5m o gocên gael ei ddarganfod yng nghist car oedd yn eiddo i Raymond Kinnear.

Fe wnaeth ditectifs gysylltu Popovics â'r grŵp troseddau cyfundrefnol drwy gofnodion ffôn a gwyliadwriaeth. 

Roedd yna hefyd dystiolaeth fforensig a adferwyd o gerbydau ac unedau storio a ddefnyddiwyd i guddio cyffuriau.

Datgelodd ymholiadau fod Popovics, a oedd yn gweithio fel gyrrwr dosbarthu yn cludo nwyddau o dir mawr Ewrop i'r DU, wedi chwarae rhan allweddol wrth gydlynu logisteg a dod o hyd i gerbydau a ddefnyddiwyd i gludo symiau mawr o gocên. 

Roedd ei gyfranogiad yn hanfodol wrth alluogi'r grŵp i ddosbarthu miliynau o bunnoedd o gyffuriau, meddai’r heddlu.

Mae aelodau'r cyhoedd yn cael eu hannog i roi gwybod am unrhyw wybodaeth am ddelio cyffuriau yn eu hardal. 

Ffoniwch 101 neu cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.