Carcharu dyn o Fangor am droseddau rhyw 'ffiaidd' yn erbyn plentyn
Mae dyn 49 oed o Fangor wedi cael ei garcharu am 15 mlynedd am droseddau rhyw "ffiaidd" yn erbyn plentyn.
Fe wnaeth Timothy Jones, o Lôn y Bedw ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar 15 Medi i gael ei ddedfrydu.
Roedd wedi cael ei ganfod yn euog mewn achos llys o ymosodiad drwy dreiddio, ymosodiad drwy gyffwrdd a chymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol gyda merch.
Nid oedd y troseddau yn rhai diweddar.
Cafodd ei garcharu am 15 mlynedd, ag un flwyddyn ar drwydded.
Fe gafodd orchymyn atal niwed rhywiol am 25 mlynedd hefyd, a bydd rhaid iddo fod ar y gofrestr troseddwyr rhyw am gyfnod amhenodol.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Geraint Jones: “Mi fydd gweithrediadau ffiaidd Jones yn effeithio ar y dioddefwr am weddill ei hoes.
"Dwi'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon o'r diwedd yn rhoi rhyw fath o derfyn boddhaol iddi, a'i chaniatáu i symud ymlaen efo'i bywyd.
"Mi fyddwn yn ymchwilio'n ddyfal bob amser i'r rhai sy'n ceisio gwneud niwed i aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas. Mi anogir unrhyw un sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol i ddod atom ni, gyda'r hyder y byddwn ni'n gwrando ac yn eu cefnogi."