Carcharu dyn o Ddyffryn Ogwen gafodd ei ddal gyda £30,000 o heroin

Carcharu

Mae dyn 74 oed o Wynedd wedi’i garcharu am dros dair blynedd ar ôl cael ei ddal gyda gwerth dros £33,000 o heroin.

Roedd Arthur Hughes o Faes Bleddyn, Rachub, eisoes wedi pledio’n euog i fod â chyffuriau yn ei feddiant gyda’r bwriad o’u cyflenwi, yn ogystal â bod ag eiddo troseddol gwerth bron i £20,000.

Cafodd ei arestio ar ôl i’r heddlu gynnal cyrch yng nghartref y pensiynwr fis Awst y llynedd.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau, cafodd Hughes, sydd yn adeiladwr sydd wedi ymddeol, ddedfryd o 38 mis o garchar.

Dywedodd y barnwr Simon Mills: “Rydych chi’n mynd yn rhy hen i fod yn ymwneud â throseddau mor ddifrifol â rhain.

“Mae’n drist gweld dyn 74 oed, sydd ddim yn yr iechyd gorau, o flaen ei well am ymwneud â’r busnes ofnadwy o gyflenwi'r cyffur hynod beryglus rheoledig, heroin.”

Roedd Hughes wedi derbyn dedfryd o garchar wedi’i ohirio yn 2019 am drosedd cyffuriau.

“Ni wnaeth hyn eich dysgu i gadw i ffwrdd rhag cyflenwi’r cyffuriau anfoesol yma,” ychwanegodd Mr Mills.

“Prin iawn rydym yn gweld dynion o’ch oedran chi yn dewis ymddwyn yn y modd yma.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.