Carcharu dyn o Ddinbych am ymosodiad treisgar ar ddyn a dynes
Mae dyn 38 oed o Sir Ddinbych wedi cael ei garcharu am droseddau treisgar yn erbyn dau berson, gan gynnwys taro dynes gyda drws car nifer o weithiau.
Fe wnaeth Robert Shane Hughes o Rhodfa Cae Llewellyn, Dinbych, ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Mercher ar gyfer gwrandawiad ple.
Cafodd ei gyhuddo o ddau gyhuddiad o ymosod yn dreisgar ar ddyn a dynes.
Digwyddodd yr ymosodiadau ychydig ar ôl 17:00 ar 2 Gorffennaf eleni, yn ardal Ffordd Bodfari yn Nhrefnant.
Aeth Hughes at gar oedd wedi parcio, cyn ymosod ar ddyn oedd yn eistedd yn sedd y gyrrwr.
Yna, taflodd Hughes ei ddioddefwraig yn erbyn y car, cyn ei tharo droeon gyda drws y cerbyd.
Arestio a chyhuddo
Ar ôl dianc oddi yno, cafodd Hughes ei arestio ddiwrnod yn ddiweddarach a'i gyhuddo o'r ymosodiadau.
Ar ôl pledio'n euog i'r ddwy drosedd yn y llys, cafodd ddedfryd o 16 wythnos yn y carchar.
Dywedodd y Rhingyll Nathan Jones o Heddlu Gogledd Cymru: “Roedd hon yn weithred ddifrifol o drais, a adawodd ddau berson yn dioddef profiad brawychus...
“Mae trais o’r math hwn yn gwbl annerbyniol, ac rydym yn cydnabod yr effaith y gall ei gael ar ddioddefwyr, yn gorfforol ac yn emosiynol.
“Rydym yn parhau i fod wedi ein hymrwymo i fynd i’r afael â throseddau treisgar, ac i sicrhau bod y rhai sy’n achosi niwed yn ein cymunedau yn cael eu dwyn o flaen y llysoedd.”
