Carcharu dyn a darodd swyddog heddlu â'i gar

Justin Evans

Mae dyn o Rondda Cynon Taf wedi ei garcharu ar ôl taro heddwas â’i gar a'i anafu'n ddifrifol.

Cafodd Justin Evans, 30 oed o Donyrefail, ddedfryd o dair blynedd a dau fis yn y carchar pan ymddangosodd yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Iau.

Cafodd ei wahardd rhag gyrru am bum mlynedd.

Fe wnaeth Justin Evans newid ei ble o ddieuog i euog o glwyfo neu achosi niwed corfforol difrifol heb fwriad. Fe wnaeth hefyd bledio’n euog i gyhuddiad o yrru'n beryglus.

Ym mis Rhagfyr 2025, roedd swyddogion yr heddlu yn chwilio am ddyn mewn cysylltiad â throseddau dwyn o siopau.

Fe wnaeth swyddogion mewn dillad plaen yn ardal Tonyrefail weld y dyn dan amheuaeth mewn Audi A4 a’i arestio ar ôl cornelu a rhwystro’r car rhag dianc.

Fe wnaeth Justin Evans, a oedd hefyd yn y car, facio’n ôl yn gyflym, gan adael y swyddog yn sownd rhwng yr Audi a cherbyd yr heddlu a’i anafu’n ddifrifol.

Fe wnaeth Evans a'r dyn ffoi o'r lleoliad. Y diwrnod wedyn, daeth swyddogion o hyd i'r Audi y tu allan i eiddo yn yr ardal leol.

Wrth fynd i mewn i'r eiddo, fe wnaethon nhw weld Evans a'r dyn oedd yn wreiddiol dan amheuaeth yn ceisio cuddio yn y gegin.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Victoria Balzano: "Rhaid canmol dewrder ein swyddogion, ond mae'n bwysig cydnabod yr effaith sylweddol mae'r digwyddiadau hyn yn ei chael arnyn nhw, eu teuluoedd, a'r gymuned ehangach.

“Heb os, mae digwyddiadau fel y rhain, y mae swyddogion yn eu hwynebu bob dydd, yn effeithio'n ddwfn ar bob swyddog.

"Bydd Evans yn wynebu dedfryd o garchar ac rydw i’n gobeithio y bydd yn adlewyrchu difrifoldeb ei weithredoedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.