Carcharu dyn 21 oed o Ben Llŷn am dreisio dynes
Mae dyn 21 oed o Ben Llŷn a ffilmiodd ei hun yn treisio dynes tra roedd hi'n cysgu, wedi cael ei garcharu am fwy nag wyth mlynedd.
Cafodd achos dedfrydu Joel Hookings o bentref Edern ei gynnal yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun.
Roedd e eisoes wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad.
Clywodd y llys ei fod wedi defnyddio ffôn symudol i ffilmio ei hun yn treisio'r ddynes tra roedd hi'n cysgu.
Roedd y fideo wedi cael ei arbed ar ei ddyfais o dan ffolder gyda'r enw 'for my eyes only.'
Dywedodd Richard Edwards ar ran y diffynnydd bod Hookings wedi "ei chael hi'n anodd deall pam ei fod wedi ymddwyn yn y fath fodd."
Wrth siarad â Hookings yn uniongyrchol yn y llys, dywedodd y barnwr Timothy Petts bod ei weithred wedi effeithio'n fawr ar ei ddioddefwraig.
Dywedodd wrth y ddynes, a oedd yn bresennol yn y llys, nad oedd unrhyw yn gallu "deall neu werthfawrogi'r hyn rydych wedi ei ddioddef."