Carcharu cwpl o’r Rhondda am gael rhyw mewn man cyhoeddus

Anthony Evans a Leah Evans

Mae cwpl o’r Rhondda wedi cael eu carcharu ddydd Gwener ar ôl cael rhyw mewn man cyhoeddus.

Mae Anthony Evans, 42 oed, a Leah Evans, 37 oed, wedi cael eu carcharu am dri mis.

Roedden nhw wedi cael eu dal ar gamerâu cylch cyfyng yn Nhonysguboriau yn cael rhyw ym mis Chwefror y llynedd.

Fe gafodd swyddogion alwad gan berchennog caffi  yn y dref ar 23 Chwefror yn honni bod dau berson wedi torri i mewn i ardal seddi awyr agored y busnes.

Fe blediodd y ddau’n euog yn Llys Ynadon Merthyr Tudful i gyflawni gweithred a oedd yn tramgwyddo gwedduster cyhoeddus, ac i gyflawni difrod troseddol.

Dywedodd PC Ffion Hiscutt: “Roedd hwn yn ymddygiad annerbyniol ac yn weithred warthus mewn man cyhoeddus oedd i’w weld yn glir gan y cyhoedd.

“Mae ganddyn nhw bellach gyfnod byr yn y carchar i feddwl am eu gweithredoedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.