Carchar am oes i ddyn o Abertawe am lofruddio ei lysfab

Thomas Morgan

Mae dyn 29 oed wedi cael dedfryd o garchar am oes ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog o lofruddio bachgen bach pum mis oed, yn dilyn ffrae rhyngddo â'i gyn-gariad.  

Fe wnaeth Thomas Morgan ymosod ar ei lysfab Jensen-Lee Dougal yng nghartref y teulu yn Abertawe ym mis Mawrth 2024. 

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod y bachgen wedi marw yn yr ysbyty ar ôl dioddef niwed difrifol i'w ymennydd, ei lygaid a thorri sawl asgwrn.  

Roedd Morgan mewn perthynas gyda mam Jensen-Lee Dougal, Jordan Dougal pan ddigwyddodd yr ymosodiad. 

'Galar llethol'

Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd Jordan Dougal: "Dim ond pum mis oed oedd Jensen-Lee pan gafodd ei fywyd ei gymryd. Roedd yn gwbl ddiniwed ac yn gwbl ddibynnol ar yr oedolion o'i gwmpas i'w gadw'n ddiogel.

"Ers marwolaeth Jensen-Lee, mae fy mywyd wedi newid yn barhaol. Rwy'n byw gyda galar llethol, trawma a phoen emosiynol.

"Ni chefais y cyfle erioed i glywed Jensen-Lee yn dweud ei fod yn fy ngharu i. Ni fyddaf byth yn ei glywed yn fy ngalw'n "mami". 

"Ni fyddaf byth yn ei weld yn cymryd ei gamau cyntaf, yn dweud ei eiriau cyntaf, yn dechrau yn yr ysgol, nac yn tyfu i fod y person yr oedd i fod."

Ychwanegodd: "Oherwydd yr hyn a wnaeth Thomas Morgan, rwyf hefyd wedi derbyn dedfryd o garchar am oes, ond mae fy un i yn un o alar.

"Ni fydd Jensen-Lee byth yn cael ei anghofio. Rwy'n dy garu di, Jensen-Lee."

Image
Jensen-Lee Dougal
Jensen-Lee Dougal

Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lianne Rees: “Gyda’r ddedfryd heddiw, mae gennym ni gyfiawnder o’r diwedd am y drosedd ofnadwy a gyflawnwyd gan Thomas Morgan ar fachgen bach diamddiffyn.

“Efallai bod Thomas Morgan bellach o’r diwedd ac yn briodol yn mynd i’r carchar, ond ni fydd hyn yn gwneud llawer i leddfu’r galar a brofwyd gan deulu Jensen-Lee, ac yn enwedig ei fam Jordan, a roddodd ei hymddiriedaeth yn ei phartner ar y pryd, Thomas Morgan, i ofalu am Jensen-Lee, dim ond i brofi’r brad eithaf.

“Hoffwn dalu teyrnged i aelodau’r cyhoedd, ymatebwyr cyntaf a phawb a oedd yn rhan o’r ymdrechion i achub bywyd Jensen-Lee, wrth wynebu’r amgylchiadau mwyaf annirnadwy a thrasig yn ôl ym mis Mawrth 2024. 

"Hoffwn hefyd gydnabod yr urddas a’r cryfder anhygoel a ddangoswyd gan deulu Jensen-Lee drwy gydol y daith boenus hon."

Ffrae

Yn ystod yr achos llys fe glywodd y rheithgor fod Morgan wedi cael ffrae gyda'i gyn bartner Georgia Griffiths yn gynharach yn y diwrnod ar 30 Mawrth 2024. 

Roedd Morgan wedi cael ei adael ar ei ben ei hun yn y cartref gyda Jensen-Lee tra roedd mam y plentyn wedi mynd i'w gwaith. 

Tra yn y gwaith fe gafodd Ms Dougal alwad ffôn gan Morgan yn dweud bod ei phlentyn yn tagu ac nad oedd yn anadlu.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty, ond roedd yn rhaid ei dynnu oddi ar beiriant cymorth bywyd y diwrnod canlynol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.