Canslo Gŵyl Wireless ar ôl gwrthod mynediad Kanye West i'r DU
Mae Gŵyl Wireless wedi cyhoeddi eu bod yn canslo'r digwyddiad ar ôl clywed fod y Swyddfa Gartref wedi gwrthod mynediad y rapiwr dadleuol Kanye West i'r DU.
Mae trefnwyr yr ŵyl Festival Republic wedi cadarnhau fod y digwyddiad wedi ei ganslo brynhawn Mawrth, gan ddweud: "Mae'r Swyddfa Gartref wedi tynnu caniatad i Kanye West ymuno â'r DU yn ôl".
Ers cyhoeddi arlwy Gŵyl Wireless, roedd galwadau wedi dod i wahardd y cerddor rhag cael dod i mewn i'r DU oherwydd ei agweddau gwrth-semitig yn y gorffennol.
Y rapiwr, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Ye, oedd ar frig y rhestr o berfformwyr am dair noson yn ystod yr ŵyl ym Mharc Finsbury yn Llundain ym mis Gorffennaf.
Roedd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi galw’r penderfyniad i'w gynnwys yn yr ŵyl fel un “pryderus iawn”, ac roedd noddwyr wedi tynnu eu cefnogaeth i’r ŵyl yn ôl oherwydd y penderfyniad i gynnwys Mr West.
Roedd yr Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood wedi wynebu galwadau gan wleidyddion a’r Ymgyrch yn Erbyn Gwrth-Semitiaeth i wahardd Kanye West rhag dod i’r DU, gan ddweud na fyddai ei bresenoldeb wedi bod yn “ffafriol i les y cyhoedd”.
Fe aeth llefarydd ar ran Festival Republic ymlaen i ddweud: "O ganlyniad, mae Gŵyl Wireless wedi'i chanslo a bydd ad-daliadau'n cael eu rhoi i bob deiliad tocynnau.
"Fel gyda phob Gŵyl Wireless, fe ymgynghorwyd â nifer o randdeiliaid cyn trefnu ac ni amlygwyd unrhyw bryderon ar y pryd.
"Mae gwrth-Semitiaeth ym mhob ffurf yn ffiaidd, ac rydym yn cydnabod yr effaith wirioneddol a phersonol y mae'r materion hyn wedi'i chael." ychwanegodd y llefarydd.