Trump yn dweud y bydd 'gwareiddiad cyfan yn marw heno' os na fydd Iran yn gwneud cytundeb
Wrth i'r terfyn amser sydd gan Iran i ddod i gytundeb er mwyn agor Culfor Hormuz i longau agosáu, mae'r Arlywydd Donald Trump wedi rhybuddio y bydd 'gwareiddiad gyfan yn marw heno' os na ddaw cytundeb.
Mae gan Iran hyd at 20:00 nos Fawrth amser Washington (01:00 fore Mercher amser Prydain) i weithredu, yn dilyn neges fygythiol Mr Trump i'r wlad dros y penwythnos oedd yn llawn rhegfeydd.
Dywedodd y byddai'r wlad yn "byw yn uffern" os na fydd ei harweinwyr yn cydymffurfio gyda'i alwad i agor y culfor sydd mor hanfodol i ynni'r byd.
Yr unig ddewis arall meddai oedd y byddai Iran yn cael ei bomio "yn ôl i Oes y Cerrig".
Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, ailadroddodd Mr Trump ei fygythiad i ymosod ar seilwaith sifil Iran, gan gynnwys gorsafoedd ynni a phontydd, gan ddiystyru'r awgrym y byddai gwneud hyn yn drosedd rhyfel.
Yn ôl arbenigwyr, mae neges Trump ar y platfform Truth Social yn gynnydd rhyfeddol arall mewn rhethreg, a oedd yn gwbl annisgwyl gan arlywydd America yn y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ac yn ôl un cyn cynghorydd cyfreithiol yn Adran Wladwriaeth y wlad, fod neges Trump yn gallu cael ei dehongli fel "bygythiad yn erbyn gwareiddiad drwy hil-laddiad" wrth drafod lladd "gwareiddiad cyfan".
Mae Llywodraeth y DU wedi addo peidio â chymryd rhan mewn unrhyw gamau milwrol yn erbyn Iran.
Diogelu Culfor Hormuz
Cyn i derfyn amser Mr Trump ddod i ben, bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn Northwood ger Llundain o gynllunwyr milwrol i drafod mesurau hirdymor i ddiogelu Culfor Hormuz.
Mae'r culfor, sy'n llwybr llongau hanfodol ar gyfer cludo olew a nwy, wedi ei gau i bob pwrpas gan Tehran ers dechrau'r rhyfel, gan achosi aflonyddwch sylweddol i gyflenwadau olew a bygwth prinder tanwydd ledled y byd.
Mae disgwyl y bydd y cyfarfod dydd Mawrth yn canolbwyntio ar gynlluniau ar gyfer clymblaid ryngwladol i wneud y culfor yn ddiogel ar gyfer llongau unwaith y bydd yr ymladd yn y rhanbarth wedi dod i ben.
Mae'n dilyn cyfarfod o fwy na 40 o genhedloedd, dan gadeiryddiaeth yr Ysgrifennydd Tramor Yvette Cooper, a drafododd gamau ar y cyd i gynyddu'r pwysau ar Tehran i ailagor Cilfor Hormuz.
Ond nid yw'n debygol y bydd unrhyw beth yn digwydd nes bod Iran, America ac Israel wedi cytuno ar gadoediad, gyda'r risg y byddai llongau'n cael eu taro gan ddronau neu daflegrau o Iran yn ystod yr ymladd.