Canser y prostad: 'Angen i ddynion fod yn ymwybodol o hanes iechyd eu teulu'
Canser y prostad: 'Angen i ddynion fod yn ymwybodol o hanes iechyd eu teulu'
Mae tad o Gaernarfon sy’n byw gyda chanser y prostad cam 4 yn annog dynion i fod yn ymwybodol o hanes iechyd eu teulu.
Cafodd Gwyndaf Jones, 61 oed, ddiagnosis o ganser y prostad nad oes modd gwella ohono yn ystod haf 2024 - flwyddyn ar ôl iddo ddechrau teimlo’n sâl.
Dywedodd y cyn-swyddog heddlu iddo droi at feddyg preifat am atebion ar ôl honni bod ei feddyg teulu yn y Gwasanaeth Iechyd wedi methu'r diagnosis, gyda’r oedi yn golygu bod y canser wedi lledu i’w lymffau.
Gan fod ei dad, Gareth Jones, 84 oed, wedi cael diagnosis o ganser y prostad ac yn parhau i gael ei fonitro, mae Mr Jones yn credu y dylai ei feddyg teulu fod wedi bod yn ymwybodol o’i risg.
Yn ôl Prostate Cancer UK, os yw perthynas agos fel tad neu frawd wedi cael canser y prostad, mae’r risg i unigolyn ddatblygu’r clefyd yn fwy na dyblu.
Mae’r elusen yn dweud bod cyfraddau diagnosis o ganser y prostad cam 4 ar eu huchaf erioed yng Nghymru, gyda 689 o ddynion yn derbyn y diagnosis yn 2022.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr nad ydyn nhw’n rheoli meddygfa Mr Jones yn uniongyrchol, ac nad ydyn nhw am ddarparu ymateb.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai unrhyw un sydd â symptomau canser y prostad, neu sy’n poeni amdano, gysylltu gyda meddyg teulu.
‘Newid fy mywyd yn gyfan gwbl’
Doedd Mr Jones “erioed wedi bod yn sâl” cyn iddo gael diagnosis o ganser y prostad - newyddion y mae’n ei ddisgrifio fel “sioc fawr” i’w deulu
Er nad oes modd gwella, mae’n bosib rheoli'r canser gyda nifer o driniaethau gwahanol, gan gynnwys cemotherapi, radiotherapi a therapi hormonaidd.
“Mae’r triniaeth wedi effeithio fi mwy na’r salwch, dwi ‘di colli chwech disg yn fy nghefn, mae gen i lymphoedema drwg achos bod y lymph glands wedi cael eu heffeithio,” meddai. “Dwi ‘di blino, cysgu lot yn dydd. Dim egni.”
Ychwanegodd ei fod wedi rhoi 50 cilo o bwysau (tua wyth stôn) ymlaen dros y ddwy flynedd diwethaf.
“Mae ‘di newid fy mywyd i’n gyfan gwbl,” meddai.
“Ond ‘sa ‘di cael ei bigo fyny’n fuan, ‘swn i ‘di cael surgery, tynnu’r prostad a ‘swn i’n oce ‘wan.”
Mae Mr Jones yn dweud ei fod yn bryderus am lefel risg ei deulu.
“Mae gyno ni 10 o grandchildren, dwi’n poeni am heini,” meddai.
“Ac mae’r mab yn 35 oed, natho ni dalu am dest preifat iddo fo - lwcus mi oedd o’n glir, ond mae o’n ddigon ifanc ar hyn o bryd.”
Dywedodd ei fab, Gerwyn Jones, ei fod yn bwriadu talu £50 y flwyddyn i gael ei brofi am y canser am weddill ei fywyd.
“Ar ôl gwbod bod Taid 'di cael o, mi oedd o'n sioc gwbod bo' Dad 'di cael o hefyd,” meddai.
“Mae o bach yn sgeri achos ti’n gwbod bod 'na chance da bod o’n rhedeg trwy’r teulu.”
Oes angen rhaglen sgrinio genedlaethol?
Canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin yn y DU erbyn hyn, yn ôl ystadegau newydd a gafodd eu cyhoeddi gan Prostate Cancer UK ym mis Ionawr.
Yn ôl ffigyrau’r elusen, cafodd 64,425 o ddynion ddiagnosis yn 2022, o gymharu â 61,640 a gafodd ddiagnosis canser y fron, sef y canser a oedd yn arfer bod y mwyaf cyffredin.
Ond yn wahanol i ganser y fron, nid oes rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser y prostad.
Mae Prostate Cancer UK yn galw ar y Gwasanaeth Iechyd i gyflwyno rhaglen sgrinio genedlaethol sy’n defnyddio profion PSA, sef y profion gwaed ar gyfer canser y prostad.
Mae'r elusen hefyd yn ymchwilio i weld a fyddai'n fuddiol i gyfuno'r profion PSA gyda phrofion eraill fel sganiau MRI, gan nad yw profion PSA bob amser yn ddibynadwy.
Daw’r alwad gan yr elusen ar ôl i Bwyllgor Sgrinio'r Deyrnas Unedig, sy'n cynghori Llywodraeth y DU, ddweud na ddylai sgrinio ar gyfer canser y prostad fod ar gael ar gyfer mwyafrif llethol y dynion yn y DU.
Yn hytrach, nododd y pwyllgor y dylid sgrinio dynion rhwng 45 a 61 oed gyda newidiadau genetig BRCA1 a BRCA2, sef lefel risg uwch, bob dwy flynedd.
Yn ôl Mr Jones, dylai meddygon teulu wneud mwy i godi ymwybyddiaeth o’r math yma o ganser ymhlith cleifion sydd gyda hanes o’r clefyd yn y teulu.
“Mae’r surgeries ‘ma fod i neud wbath amdano fo,” meddai.
“Maen nhw’n gwbod bod fy mam i wedi cael breast cancer, maen nhw’n gwybod bod fy nhad i yn cael ei fonitro am prostate cancer.
“Maen nhw fod i ffeindio’r linc yna.”
Ers derbyn ei ddiagnosis, mae Mr Jones wedi ymuno gyda Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gogledd Cymru.
“Dwi’n nabod lot o bobl erill sy’ ‘di cael yr un treatment gan eu GPs nhw - cael eu ignorio mewn ffordd,” meddai.
“Mae ‘na angen national screening programme fel sy’ ‘na am canser y fron.”
Er mwyn helpu’r achos yn lleol, mae Mr Jones wedi codi arian i drefnu digwyddiad profi am ganser y prostad yng Nghaernarfon ar 11 Mehefin.
Yno bydd 120 o ddynion yn cael prawf PSA am ddim - ac mae’n gobeithio trefnu o leiaf tri digwyddiad arall mewn ardaloedd eraill yng Ngwynedd eleni.
“Os ti’n nabod rhywun efo wbath, ti’n fwy tebygol o neud wbath amdano fo,” meddai.
“Felly dyna ‘da ni’n trio neud.”
Beth mae'r pleidiau'n ei ddweud?
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymwybodol bod Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn ystyried sgrinio canser y prostad wedi'i dargedu ar gyfer dynion gyda mwtiadau BRCA, a byddwn yn ystyried cyngor pe bai argymhelliad ffurfiol yn cael ei wneud yn dilyn yr ymgynghoriad.
"Dylai unrhyw un sydd â symptomau - neu'n poeni am - canser y prostad siarad â'u meddyg teulu."
Dywedodd Llafur Cymru ei bod yn "wirioneddol bwysig ein bod yn dilyn y dystiolaeth" o ran rhaglenni sgrinio oherwydd mae "manteision a niwed yn gysylltiedig â sgrinio ar draws y boblogaeth", er mwyn sicrhau bod sgrinio yn "gwneud mwy o les nag o ddrwg".
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y byddan nhw'n creu Cronfa Triniaethau Canser a Chronfa Clefydau Prin, a'u bod wedi ymrwymo i gyflwyno rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser y prostad.
Yn ôl Plaid Cymru, byddan nhw'n "blaenoriaethu atal canser, dal canserau yn gynharach, sicrhau tegwch wrth ddarparu gwasanaethau, a chryfhau rheolau ynghylch caniatâd cleifion" er mwyn cynnig gwell cefnogaeth i gleifion.
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru eu bod yn "cefnogi cyflwyno sgrinio wedi’i dargedu ar gyfer y rhai sydd â risg genetig uwch" ac yn annog Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU i symud ymlaen gydag argymhellion clir "cyn gynted â phosib".
Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymatebion gan y Blaid Werdd a Reform UK.
