Canolfan arddio ger Porthmadog i gau ar ôl bron i 40 mlynedd
Bydd canolfan arddio ger Porthmadog yng Ngwynedd yn cau ar ôl bron i 40 mlynedd.
Dywedodd Canolfan Arddio Tremadog eu bod wedi'u "gorfodi" i gau'r busnes yn sgil methiant i setlo hawliad yswiriant yn dilyn tân dros bedair blynedd yn ôl, yn ogystal â chystadleuaeth gan archfarchnadoedd a gwefannau siopa ar-lein.
Mae disgwyl i'r siop gau ddiwedd mis Medi, neu pan fydd yr holl stoc wedi'i werthu.
Fodd bynnag, bydd ochr y busnes sy'n gwerthu siediau ac adeiladau gardd yn parhau.
Mewn datganiad, dywedodd y perchnogion: "Gyda thristwch mawr yr ydym yn cyhoeddi cau Canolfan Arddio Tremadog ar ôl bron i 40 mlynedd o fasnachu.
"Mae hyn wedi'i orfodi arnom gan y methiant parhaus i setlo'r hawliad yswiriant, sydd bellach bedair blynedd a hanner ers y tân, y cynnydd mewn archfarchnadoedd yn ymyrryd yn y fasnach arddwriaethol, a chynnydd gwefannau rhyngrwyd fel Amazon.
"O'r herwydd, bydd yr holl stoc sy'n weddill yn cael ei ostwng i 50% i ffwrdd o ddydd Sadwrn ymlaen, ac rydym yn disgwyl i'r siop gau ddiwedd mis Medi, neu pan fyddwn yn rhedeg allan o stoc.
"Hoffem ddiolch i'n holl gwsmeriaid dros y blynyddoedd.
"Mae ochr siediau ac adeiladau gardd y busnes yn parhau, a byddwn yn edrych i ehangu ein safle arddangos i'w wneud y gorau yng Ngogledd Cymru, gyda'r ystod fwyaf o adeiladau gardd i'w gweld."
