Cannoedd o bysgod wedi eu canfod yn farw mewn parc yng Nghaerdydd

Pysgod marw

Mae cannoedd o bysgod wedi cael eu canfod yn farw mewn parc yng Nghaerdydd.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu bod yn ymchwilio i lygredd yn Nant y Rhath sydd wedi arwain at “farwolaeth cannoedd o bysgod o wahanol rywogaethau”.

Cafodd y digwyddiad ei adrodd gyntaf gan aelodau o’r cyhoedd ddydd Iau 11 Mehefin.

Mae lluniau sydd wedi eu rhannu gan CNC yn dangos pysgod marw yn yr afon.

Daw hyn ar ôl i luniau gael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos yr afon, sy’n rhedeg drwy Barc y Rhath, yn ymddangos fel pe bai wedi troi’n wyn.

Dywedodd CNC eu bod nhw’n ymchwilio i weld a allai marwolaethau’r pysgod fod wedi cael ei achosi gan rywbeth gwenwynig yn cael ei arllwys i lawr draen dŵr wyneb, neu gan lygredd ar raddfa fwy.

Mae swyddogion wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr hyn allai fod wedi digwydd yn Nant y Rhath i gysylltu â nhw.

Mae’n nhw awgrymu y dylai perchnogion cŵn gadw eu hanifeiliaid allan o’r dŵr rhag ofn.

Ychwanegodd CNC fod pysgod byw wedi cael eu gweld yn y nant gyfagos, sef Nant Lleucu yng Ngerddi Waterloo ers i’r achos o lygredd gael ei adrodd.

“Gall cemegau niweidiol, olewau, paent, neu gynnyrch glanhau achosi difrod difrifol i fywyd gwyllt lleol ac ecosystemau os ydyn nhw’n cael eu gwaredu yn y ffordd anghywir,” meddai CNC.

Mae’r corff yn gofyn i unrhyw un a welodd rywbeth “anarferol” yn ardal Nant y Rhath — gan gynnwys os oedd rhywun wedi arllwys sylweddau i mewn i ddraen — neu sydd â gwybodaeth am yr hyn allai fod wedi achosi marwolaethau’r pysgod, i gysylltu â’u swyddogion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.