Caergybi: Tua 500 tunnell o ddŵr wedi llifo i fferi Stena Line ar ôl iddi daro byffer
Fe aeth tua 500 tunnell o ddŵr i mewn i ystafell injan fferi Stena Line ar ôl iddi daro byffer wrth ddocio ym Mhorthladd Caergybi.
Bu’r porthladd ar gau i draffig fferïau tan yn ddiweddarach y noson honno ar ôl i’r Stena Estrid gael ei difrodi yn y digwyddiad ar 7 Ionawr eleni.
Dywedodd crynodeb o asesiad rhagarweiniol a gyhoeddwyd ddydd Iau gan y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) fod 91 o deithwyr a 66 aelod o’r criw ar y llong ar y pryd. Doedd neb wedi cael ei anafu.
“Pan darodd Stena Estrid y byffer, cafodd twll ei wneud yng nghorff y fferi ychydig o dan y llinell ddŵr yn ystafell injan ochr dde’r llong, ac uwchben y llinell ddŵr ar y dec cargo,” meddai’r asesiad.
“Achosodd y difrod i tua 500 tunnell o ddŵr lifo i ystafell injan ochr dde’r llong. Fe wnaeth swm anhysbys o ddŵr lifo i wagle cyfagos hefyd.
“Ymatebodd y criw yn gyflym drwy gynnal corff y llong o dan y llinell ddŵr, pwmpio’r dŵr allan a throsglwyddo balast. Roedd hyn yn gwneud i’r llong ogwyddo i’r chwith ac yn codi’r rhannau oedd wedi’u difrodi uwchben y llinell ddŵr.
“Ar ôl i’r sefyllfa ar y llong gael ei rheoli, roedd Stena Estrid yn gallu parhau i’r angorfa. Roedd y teithwyr yn gallu gadael y fferi a chafodd y cerbydau eu dadlwytho heb oedi sylweddol.”
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am 07:50 a chafodd Porthladd Caergybi ei gau i fferïau tan yn ddiweddarach y noson honno.
Yna, cafodd Stena Estrid ei symud i angorfa arall a chafodd y lanfa ei harchwilio am ddifrod. Doedd dim difrod sylweddol i’r lanfa ac fe gafodd y derfynfa ei hailagor.
Ar ôl gwaith trwsio dros dro, fe wnaeth Stena Estrid deithio i ddoc sych yn Lerpwl.
Dywedodd yr asesiad fod archwiliad diweddarach o’r byffer troi (uchod) wedi dangos bod sawl darn miniog yn ymwthio allan o’r plât blaen. Doedd dim strwythur byffer rwber yno chwaith.
Doedd criw Stena Estrid ddim yn gwybod ymlaen llaw am y darnau miniog hyn na maint y difrod y gallen nhw ei achosi pe bai’r llong yn eu taro, meddai’r asesiad.
Roedd Awdurdod Porthladd Caergybi wedi cyhoeddi hysbysiad i forwyr ym mis Gorffennaf 2025 yn dweud na ddylid defnyddio’r byffer.
Roedd meistr Stena Estrid yn gwybod bod angen osgoi’r byffer wrth ddocio. Ond fe wnaeth y llong nesáu at y lanfa yn gynt na’r disgwyl, mae’n debyg oherwydd ei safle ar ôl troi a’r gwyntoedd cryf o’r gorllewin oedd yn ei gwthio tuag at y lanfa.
Roedd y gwaith docio o fewn terfynau gweithredu’r porthladd a’r llong. Roedd rhai o’r negeseuon rhwng Stena Estrid a’r tynfad yn gwrthdaro â’i gilydd hefyd, meddai'r adroddiad.
Yn ôl yr asesiad, mae Stena Line Limited wedi:
- Adolygu sut mae pob fferi sy’n defnyddio Porthladd Caergybi yn gweithredu.
- Gofyn i Awdurdod Harbwr Caergybi archwilio a thrwsio’r byfferau sydd wedi’u difrodi ar lanfa Terfynfa 3.
- Cyhoeddi memo i bob swyddog dec yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi gwybod am y pellter wrth nesáu at y lanfa ac wrth symud oddi wrthi, pan fyddan nhw mewn safleoedd angori.
Mae Stena Line Ports Limited wedi:
- Ailstrwythuro ei hawdurdodau harbwr yn llwyr ledled y DU ar ôl digwyddiadau cynharach yn Nherfynfa 3 a Therfynfa 5 ym Mhorthladd Caergybi.
- Tynnu’r cromfachau oedd yn ymwthio allan o’r byffer.
- Dechrau prosiect gwella i ailagor Terfynfa 5 ym Mhorthladd Caergybi ac i wella gwydnwch y ddwy derfynfa. Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn mis Hydref 2026.
- Cynllunio gwaith i osod anodau newydd, gosod byfferau newydd yn lle’r rhai diffygiol neu’r rhai sydd ar goll, ac adnewyddu dau o’r strwythurau angori.
Mae’r MAIB wedi cau ei ymchwiliad oherwydd y camau sydd wedi’u cymryd a’r gwelliannau sydd wedi’u cynllunio yn y porthladd.
Dywedodd yr MAIB fod sawl digwyddiad yn ymwneud â fferïau wedi digwydd yn y porthladd yn ystod y flwyddyn flaenorol. Roedd y rhain yn cynnwys digwyddiad yn Nherfynfa 5 ym mis Mai 2025 ac un arall ym mis Rhagfyr 2025 a arweiniodd at gau’r derfynfa.
Ym mis Rhagfyr 2024, fe gafodd holl wasanaethau fferi’r porthladd, sy’n eiddo i Stena Line, eu canslo ar ôl i ddifrod i seilwaith angori hanfodol yn sgil Storm Darragh orfodi’r porthladd i gau.
Bu oedi wrth ddosbarthu parseli dros gyfnod y Nadolig hwnnw, ac fe gafodd miloedd o bobl oedd yn teithio adref eu heffeithio.
Fe gafodd y porthladd ei ailagor yn llawn fis Gorffennaf y llynedd, ar ôl agor yn rhannol fis Ionawr. Ond cafodd Terfynfa 5 ei chau eto ar ôl digwyddiad wrth ddocio ym mis Rhagfyr 2025, ac roedd hi’n dal ar gau pan gyhoeddwyd yr asesiad.