Caerfyrddin: Cerddwr wedi marw mewn gwrthdrawiad oedd yn cynnwys car heddlu
Mae cerddwr wedi marw ar ffordd ar gyrion Caerfyrddin yn dilyn gwrthdrawiad chwe cherbyd, oedd yn cynnwys car yr heddlu.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyfeirio eu hunain i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn dilyn y digwyddiad ar ffordd yr A40 rhwng cylchfan PC World a chylchfan Abergwili am tua 21:50 nos Fawrth.
Derbyniodd yr heddlu adroddiad yn mynegi pryder am ddiogelwch cerddwr ar y ffordd.
Ar ôl anfon swyddogion i'r lleoliad, daeth adroddiadau pellach fod nifer o gerbydau wedi taro'r cerddwr cyn i'r swyddogion gyrraedd.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, daeth adroddiadau hefyd fod un o'u cerbydau, a oedd yn gyrru ar yr A40 ar y pryd, wedi taro'r cerddwr cyn i'r heddlu gyrraedd.
Bu farw'r cerddwr yn y fan a'r lle ac mae'r ffordd yn parhau i fod ar gau ddydd Mercher.
Nid oes neb wedi eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac mae ymdrechion ar y gweill i adnabod yr unigolyn sydd wedi marw a chysylltu gyda'i deulu.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Gwnaed atgyfeiriad gorfodol i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu; mae hwn yn ofyniad statudol ar gyfer digwyddiadau o'r fath er mwyn sicrhau goruchwyliaeth annibynnol.
"Byddai'n amhriodol i ni wneud sylwadau pellach nes bod Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi cwblhau eu hasesiad.
"Hoffai'r swyddogion sy'n ymchwilio siarad ag unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad hwn, yn ogystal â gyrwyr oedd yn teithio ar hyd yr A40 ar y pryd - yn enwedig unrhyw un â chamera dashfwrdd yn eu cerbydau."
